English icon English
Smoke Free Officer with new signage 2-2

Gwaharddiad ar ysmygu ar dir ysbytai yn dod i rym yng Nghymru

Ban on smoking on hospital grounds comes into force in Wales

Heddiw (1 Mawrth), daw deddfwriaeth ddi-fwg i rym sy’n gwahardd ysmygu ar dir ysbytai yng Nghymru.

Mae’r ddeddf arwyddocaol hon, y gyntaf o’i math yn y DU, yn golygu y bydd yn ofynnol i dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a mannau awyr agored lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant yng Nghymru fod yn ddi-fwg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan ei bod yn ‘ddiwrnod o falchder i Gymru’ ac y byddai ‘o fudd i iechyd cenedlaethau’r dyfodol’.

Mae’r ddeddf yn cael ei chyflwyno i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy geisio annog pobl i beidio â dechrau ysmygu yn y lle cyntaf a thrwy gefnogi’r rhai sydd am roi’r gorau iddi.

Drwy gyflwyno deddfwriaeth ddi-fwg, y gobaith yw diogelu rhagor o bobl rhag mwg ail-law niweidiol a lleihau’r siawns y bydd plant yn dechrau ysmygu.

Gallai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith hon gael ei ddirwyo hyd at £100.

Mewn ymdrech i orfodi’r ddeddfwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r gofynion di-fwg, mae system seinyddion gyda botwm y gellir ei bwyso yn cael ei gosod wrth fynedfeydd Ysbyty Athrofaol y Faenor, sydd newydd ei hadeiladu yng Nghwmbrân, ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Bydd y seinyddion yn galluogi unrhyw un sy’n gweld rhywun yn ysmygu ar y safle i bwyso’r botwm yn ddienw. Bydd neges sydd wedi’i recordio yn cael ei chwarae i atgoffa pobl bod ysmygu wedi’i wahardd.

Bydd swyddogion gorfodi di-fwg, a gyflogir gan y bwrdd iechyd, hefyd yn bresennol ar dir ysbytai, gan siarad ag unrhyw ysmygwyr a gofyn iddyn nhw ddiffodd eu sigarét.

Yn ogystal, mae arwyddion wedi’u codi i roi gwybod i gleifion, ymwelwyr a staff am y ddeddfwriaeth newydd.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn cynnwys mannau lle mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser – megis tir ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal â mannau awyr agored lleoliadau gofal dydd plant a lleoliadau gwarchod plant. Y gobaith yw y bydd gwahardd ysmygu yn y mannau hyn yn helpu i ddadnormaleiddio ysmygu.

Mae Matt Lloyd, un o Swyddogion Gorfodi Di-fwg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi bod yn siarad ag ysmygwyr ynglŷn â’r ddeddfwriaeth hon:

“Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn stopio ysmygu pan rwy’n mynd atyn nhw. Rwy’n eu hatgoffa o’n polisi amgylchedd di-fwg a’r ddeddf newydd. Os oes rhywun yn gwrthod stopio ysmygu, rwy’n egluro wrthyn nhw pam fod gennym y polisi a’r ddeddf. Os yw’r person yn glaf yn yr ysbyty, galla’ i gysylltu â’i reolwr ward a fydd yn cynnig therapi disodli nicotin iddo i helpu i leihau’r ysfa i ysmygu. Mae gan bawb gyfrifoldeb i gefnogi’r polisi di-fwg a’r ddeddf newydd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cynnig profiad diogel a chadarnhaol i staff, cleifion ac ymwelwyr pan fyddan nhw’n defnyddio ein Gwasanaeth Iechyd.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan:

“Rydyn ni’n hynod o falch o ddod â’r ddeddf hon i rym heddiw, gan wneud tir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae a lleoliadau awyr agored gofal plant yn ddi-fwg yng Nghymru.

“Bydd y ddeddf newydd nid yn unig yn helpu ysmygwyr i roi’r gorau iddi, ond bydd hefyd yn annog eraill i beidio â dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Rydyn ni wedi gweld effaith y gwaharddiad ar ysmygu dan do ac yn gobeithio y bydd y gwaharddiad hwn yr un mor llwyddiannus.

“Bydd y ddeddfwriaeth hon o fudd i iechyd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, gan y bydd llai o blant yn dod i gysylltiad ag ysmygu ac felly’r gobaith yw y bydd llai ohonyn nhw’n dechrau ysmygu eu hunain.

“Mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i drechu effeithiau niweidiol ysmygu. Mae adnoddau a gwasanaethau cymorth ar gael gan Helpa Fi i Stopio ar gyfer y rhai sydd am roi’r gorau iddi, ac rwy’n gobeithio y bydd ein gwaith heddiw yn arwain at Gymru iachach a di-fwg am flynyddoedd i ddod.”