Gwaith Cryfhau Pont Cyfnewidfa Talardy Cyffordd 27 yr A55
A55 junction 27 Talardy Interchange Bridge Strengthening Works
Mae gwaith cynnal a chadw hanfodol i gryfhau’r pontydd wrth gyffordd 27 yr A55 bellach wedi dechrau.
Wedi’u hadeiladu ym 1970, mae’r tair pont sy’n rhan o’r A55 drwy Gyfnewidfa Talardy yn cael eu cryfhau er mwyn iddynt barhau i gario llwythi trwm yn ddiogel am flynyddoedd i ddod.
Mae cwmpas y gwaith yn cynnwys atgyweirio concrit, ailosod cymalau symud, gosod wyneb newydd ar y gerbytffordd ac ychwanegu gwaith dur i gryfhau deciau’r bont.
Mae hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch teithwyr ac i ddarparu llwybr dirwystr ar gyfer cerbydau trwm a fyddai fel arall yn gorfod cael eu gwyro oddi ar yr A55 i ddefnyddio ffyrdd lleol.
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr, mae’r gwaith yn cael ei wneud 24 awr y dydd er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar draffig ar y penwythnosau drwy gydol cyfnod y prosiect i sicrhau nad yw’n effeithio ar draffig ar adegau prysurach.
Mae'r gwaith wedi'i raglennu i gymryd 11 wythnos gan ddibynnu ar y tywydd a bwriedir ei gwblhau erbyn 27 Tachwedd, ond bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i orffen cyn hynny os bydd hynny’n bosibl.
Bydd lonydd tua’r dwyrain a thua’r gorllewin ar gau am bedair wythnos o 28 Medi ymlaen, gyda’r gerbytffordd ar gau yn gyfan gwbl dros nos am bythefnos o 8 Tachwedd ymlaen. Bydd ffordd ymuno tua’r dwyrain a ffordd ymadael tua’r gorllewin cyffordd 27 hefyd ar gau pan fo angen.
Bydd peth o’r gwaith yn cael ei wneud mewn ardaloedd gwarchodedig allan o olwg gyrwyr.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud pan fo lefelau’r traffig yn is a phan fo’r tywydd fel arfer yn well yn hytrach na’i wneud yn nes ymlaen yn y gaeaf.
Bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i darfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr ond dylid disgwyl ychydig o oedi wrth nesáu at gyffordd 27 wrth deithio tua’r gorllewin rhwng dydd Llun a dydd Iau. Bydd gyrwyr yn cael eu cyfarwyddo i aros ar yr A55 yn hytrach na defnyddio llwybrau traffig lleol eraill nad ydynt yn addas fel llwybrau gwyro pan fo lefelau’r traffig yn uchel.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates: “Diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth. Bydd y gwaith hanfodol yn Nhalardy yn cryfhau’r pontydd ar gyfer y dyfodol, gan helpu i leihau achosion o darfu annisgwyl neu wyro llwythi trwm i ffyrdd llai.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Traffig Cymru https://traffig.cymru/ neu dilynwch @TrafficWalesN