Gwaith hanfodol i roi arwyneb newydd rhwng Cyffordd 33 ar yr A55 a Chyfnewidfa Parc Dewi Sant ar yr A494
Essential resurfacing work to take place on A55 Junction 33 to A494 St David’s
Bydd gwaith hanfodol i roi arwyneb newydd yn y ddau gyfeiriad rhwng Cyffordd 33 (Northop) ar yr A55 a Chyfnewidfa Parc Dewi Sant ar yr A494 yn dechrau ar 17 Mai, ac yn parhau am dair wythnos
Mae’n rhan o’r gwaith hanfodol y mae angen ei wneud i roi arwyneb newydd ar yr A55 rhwng Ewloe a Brychdyn, a rhwng Wrecsam a Pulford yn ystod y blynyddoedd nesaf. Cwblhawyd y cam cyntaf ym mis Chwefror eleni rhwng Cyffyrdd 35 a 34.
Yn groes i’r arfer, mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod mis Mai a mis Mehefin eleni, am fod y lefelau traffig yn isel iawn oherwydd y gofyniad i wneud teithiau hanfodol yn unig. Yn wreiddiol y bwriad oedd gwneud y gwaith hwn ar ôl yr haf. Bydd gweithwyr yn cadw pellter cymdeithasol ar bob adeg ac yn dilyn y rheoliadau perthnasol.
Rhaid gwneud y gwaith i gynnal cyflwr y ffordd, i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel wrth iddynt deithio ac i ddileu’r risg o gau’r ffordd yn annisgwyl.
Byddai peidio â gwneud y gwaith hwn yn arwain at y ffordd yn dirywio ymhellach, a chau’r ffordd yn annisgwyl i wneud gwaith brys. Byddai hyn yn arwain at ragor o broblemau na gwaith wedi’i gynllunio ymlaen llaw.
Er mwyn lleihau tagfeydd cymaint ag y bo modd, mae’r gwaith yn cael ei wneud ar y penwythnos ac yn y nos. I sicrhau diogelwch y rhai sy’n defnyddio’r ffordd ac er mwyn i’r gwaith galedu, bydd un lôn ar gau yn y dydd yn ystod yr wythnos.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 17 Mai, a disgwylir iddo bara am dair wythnos, yn dibynnu ar amodau tywydd – ond gwneir pob ymdrech i orffen y gwaith yn gynnar, os oes modd gwneud hynny.
Bydd y gwaith yn cynnwys tri phenwythnos o weithio 24 awr y dydd, gyda’r A55/A494 yn cael eu cau yn llwyr yn y ddau gyfeiriad yn eu tro rhwng J33 ar yr A55 (Northop) a Chyfnewidfa Parc Dewi Sant ar yr A494. Bydd gwyriadau ar waith. Yn ystod yr wythnos bydd yr A55/A494 ar gau dros nos yn y ddau gyfeiriad, gyda gwyriadau. Mae cau’r ffordd yn llwyr yn galluogi gweithio ar y ddwy lôn ar yr un pryd, gan leihau’r amser sydd ei angen i gwblhau’r gwaith.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Ein nod bob amser yw peri cyn lleied o broblemau â phosibl i’r cyhoedd wrth iddyn nhw deithio, pan fyddwn ni’n cynnal gwaith hanfodol, gan sicrhau eu bod yn ddiogel. Mae’r lefelau traffig isel iawn yn ystod yr adeg ddigynsail hon yn golygu y gellir cynnal y gwaith hanfodol hwn gyda chyn lleied o broblemau â phosibl i’r rhai sy’n gwneud teithiau hanfodol.
“Mae’r contractwyr yn gallu dilyn y rheolau cadw pellter corfforol wrth wneud y gwaith hanfodol hwn, a byddan nhw’n cydymffurfio â chanllawiau llym eraill i helpu i’w hamddiffyn eu hunain rhag y coronafeirws. Dw i’n ddiolchgar iawn i’r gweithwyr allweddol sy’n cynnal y rhwydwaith ffyrdd yn ystod yr adeg hon.”
Cytunwyd ar y cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn gyda Chyngor Sir y Fflint.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ac i gael diweddariadau rheolaidd, ewch i https://traffig.cymru/ neu dilynwch @TrafficWalesN