English icon English
Economy Minister Ken Skates & Ford Taskforce chair Professor Richard Parry-Jones CBE

Gwaith Tasglu Ford yn symud yn ei flaen ar gyfer gweithlu a chymuned Pen-y-bont ar Ogwr

Ford Taskforce progress for Bridgend workforce and community

Mae gwaith Tasglu Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn symud yn ei flaen yn dda o ran darparu ar gyfer y gweithlu a'r gymuned leol yn dilyn penderfyniad Ford i gau ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn nes ymlaen eleni.

Dyna'r neges gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wrth i'r Tasglu gwrdd heddiw.

Sefydlwyd y Tasglu i gefnogi gweithwyr a chymunedau y mae penderfyniad y cwmni i adael Pen-y-bont ar Ogwr yn effeithio arnynt. Mae'r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma fel a ganlyn:

  • Mae Ineos Automotive wedi cadarnhau y bydd yn creu cyfleuster cydosod newydd 300,000 o droedfeddi sgwâr ar safle Brocastell gyferbyn â Ford a gallai creu 500 o swyddi, gyda chyfleoedd am ragor o swyddi yn y gadwyn gyflenwi.
  • Mae 350 o weithwyr Ford eisoes wedi dod o hyd i waith newydd neu wedi penderfynu peidio â pharhau yn y gweithlu.
  • Mae gan 90 o weithwyr ddiddordeb mewn bod yn hunangyflogedig ac mae 105 wedi cadarnhau nad ydynt yn bwriadu ailymuno â'r farchnad llafur ar ôl i'r safle gau.
  • Mae 537 o weithwyr Ford eisoes wedi mynd i weithdai hyfforddi i'w helpu i baratoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Mae'r cwmni hefyd yn rhoi cymorth ariannol sylweddol i weithwyr fedru cael mynediad i hyfforddiant gan amrywiaeth eang o ddarparwyr allanol.
  • Mae mecanweithiau cymorth wedi’i sefydlu i gwmnïau o fewn y gadwyn gyflenwi, gan fynd ati gyda sectorau eraill i dynnu sylw at lle y gellid marchnata’r hyn a brynir ganddynt, yn enwedig yn y sectorau gweithgynhyrchu uchel eu gwerth megis y rheilffyrdd, awyrofod ac amddiffyn.
  • Caiff cymorth cyflogaeth cyd-gysylltiedig ei ddarparu ar draws yr holl asiantaethau lleol a rhanbarthol perthnasol yn enwedig y rheini yn y maes ariannol, iechyd, addysg a sgiliau gan hyrwyddo cydgysylltiad a sicrhau pecynnau sydd wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer y rheini yr effeithir arnynt, gyda'r cyfuniad gorau o wasanaethau yn cael eu darparu.
  • Mae’n parhau i weithio gyda Ford i gryfhau ei waddol – mae eisoes wedi dweud y bydd yn darparu Cronfa Gymunedol ac mae’r Tasglu yn edrych am gymorth pellach.

Heddiw, fel rhan o waith y Tasglu, mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £50,000, a fydd yn cael £50,000 o arian cyfatebol gan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, er mwyn caniatáu i Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr gyflawni astudiaethau dichonoldeb ar dri phrosiect a allai sicrhau dyfodol ffyniannus ar gyfer yr ardal leol.

Y prosiectau yw:

  • Rhaglen Hyb Menter
    I ddarparu mwy o le ar gyfer busnesau a chymorth integredig i fusnesau newydd ac entrepreneuriaid drwy dargedu buddsoddiad mewn eiddo sy'n gysylltiedig â sectorau allweddol ac ymateb i fethiant yn y farchnad a galw lleol.
  • Rhaglen Cydnerthedd Tref Pen-y-bont ar Ogwr
    I wella bwrlwm yng nghanol y dref a chynyddu nifer yr ymwelwyr, a fydd felly yn helpu busnesau sydd eisoes yn bodoli ac yn denu cyfleoedd newydd drwy fesurau megis darparu mannau ar gyfer busnesau newydd a mannau deori. Bydd hefyd yn ystyried lleoli Coleg Penybont yn y dyfodol yng nghanol y dref, gan gydnabod ei botensial i weithredu fel magnet a chanolbwynt ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol.
  • Rhaglen Buddsoddi Cyrchfan Porthcawl
    Cyfle i Borthcawl fod yn gyrchfan o ansawdd uchel yng Nghymru, gan ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleusterau i ddenu ymwelwyr newydd, o'r DU a thramor, a rhoi rhesymau da i bobl ymweld â'r ardal.

Wrth symud at y cam cyflenwi nesaf, bydd y tasglu yn edrych ar yr ardal fel rhan o ddull rhanbarthol gyda Phen-y-bont ar Ogwr yn ganolog i'r gwaith hwnnw. Bydd hefyd yn parhau i weithio gyda Ford i sicrhau'r dyfodol gorau ar gyfer y safle.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Mae'r Tasglu wedi gweithio'n galed ers iddo gael ei sefydlu i ddarparu canlyniadau go iawn ar gyfer gweithwyr Ford, eu teuluoedd a chymuned Pen-y-bont ar Ogwr.

"Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd a'r holl aelodau am eu harbenigedd, eu hymrwymiad a'u cyfraniadau hyd yma. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod gwaith sylweddol i'w wneud o hyd.

"Er fy mod yn dal i fod yn siomedig iawn ynghylch penderfyniad Ford i gau'r ffatri, rwy'n cydnabod y cymorth y mae wedi'i roi i'w weithlu ac ymrwymiad y Tasglu.

"Mae'r gwaith i ddenu buddsoddiad i Ben-y-bont ar Ogwr a'r rhanbarth ehangach hefyd yn fy nghalonogi.

"Bydd safle Ford yn dal i fod yn weithredol tan fis Medi, a dim ond bryd hynny y byddwn yn dechrau gweld gwir effeithiau cau’r ffatri ar lawr gwlad.

"Bydd buddsoddi yn yr ardal yn darparu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a phobl sy'n dechrau yn y gweithlu, i sicrhau bod yna gyfleoedd newydd yn lle'r rhai a gynigiwyd gan Ford gynt.

"Mae denu cwmni fel INEOS Automotive i Ben-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn rhoi hyder i'r rhanbarth a'i weithlu medrus.

"Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi £50,000 o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn cael arian cyfatebol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i edrych ar dri phrosiect yn fanylach a allai wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau lleol.

"Nid yw gwaith y Tasglu yn dod i ben a bydd yn parhau i weithio i sicrhau canlyniadau go iawn i'r ardal a'i phobl."

Nodiadau i olygyddion

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

"Mae'r tasglu eisoes yn chwarae rhan hollbwysig i benderfynu sut y gallwn roi'r gefnogaeth orau i'r rhanbarth a'r gweithwyr yr effeithir arnynt yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Mae cynnydd cadarnhaol wedi ei wneud ers ei sefydlu ac mae nawr gennym gynlluniau cadarn mewn lle i sicrhau bod enw da de Cymru fel lleoliad o ragoriaeth ddiwydiannol mewn gweithgynhyrchu a thechnoleg yn cael ei chynnal a’i hehangu.

"Mae'r buddsoddiad diweddar INEOS Automotive gerllaw'r safle, ynghyd â buddsoddiad Aston Martin yn eu ffatri ym Mro Morgannwg, yn dangos yn bendant sut mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddenu buddsoddiad a chynhyrchu cyflogaeth o fewn y sector modurol."