English icon English

Gwaith wedi dechrau ar gynllun £30 miliwn i wella’r A55

Work under way on £30m A55 improvement scheme

Mae gwaith ar gynllun mawr i amddiffyn yr A55 yn well yn erbyn llifogydd a gwella diogelwch wedi dechrau, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, heddiw

Bydd y cynllun rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion yn gwella diogelwch ar hyd darn 2.2km o’r ffordd, drwy dynnu mynediad uniongyrchol oddi ar yr A55, yn ogystal â chau wyth bwlch yn y llain ganol sydd ar hyn o bryd yn galluogi cerbydau amaethyddol araf i groesi’r A55.    

          Bydd system ddraenio well yn atgyfnerthu gallu’r ffordd i wrthsefyll llifogydd. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith helaeth ar y draeniau yn 2017 – sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth. 

          Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys pedwar cilometr o lwybrau teithio llesol i annog cerdded a beicio yn yr ardal.

          Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud oddi ar y ffordd gerbydau. Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Medi – gyda mesurau COVID-19 llym ar waith. 

          Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’n dda gen i fod y cynllun pwysig hwn i wella diogelwch ac i amddiffyn yr A55 yn well yn erbyn llifogydd bellach wedi dechrau. Yn ystod y gwaith adeiladu bydd y cynllun hefyd o fudd i’r economi leol, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion.  

          “Yn nawr yn fwy nag erioed mae angen inni fuddsoddi yn ein seilwaith ac adeiladau ar gyfer y dyfodol. Bydd y cynllun £30 miliwn hwn yn ein helpu i wneud hynny.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Griffiths, Anthony Morgan: “Rydyn ni wrth ein boddau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect hanfodol hwn i wella gallu’r A55 i wrthsefyll llifogydd ac i wella diogelwch – gan wneud siwrneiau’n fwy diogel a dibynadwy ar gyfer defnyddwyr ffordd, a gwella mynediad ar gyfer y rheini sy’n byw yn gyfagos.”

Bydd y gwaith cychwynnol oddi ar yr A55 yn cael ei gwblhau, gan gynnwys adeiladu’r mynediad cyfunol 1.3km a’r llwybr teithio llesol. Bydd hyn wedyn yn cael ei ddefnyddio, ynghyd â system rheoli traffig dros dro ar yr A55 o fis Chwefror 2021, wrth i weddill y gwaith gael ei gwblhau. Fodd bynnag, bydd pedair lôn ar agor yn ystod y dydd, a disgwylir i’r gwaith adeiladau fod wedi’i gwblhau erbyn gwanwyn 2022.