Gwasanaeth Bysiau T51 Newydd TrawsCymru ar gyfer Rhwydwaith Gogledd Cymru
New T51 TrawsCymru Bus Service for Network North Wales
Disgwylir i wasanaeth bysiau newydd sy'n cysylltu cymunedau rhwng y Rhyl a Wrecsam, fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru, ddechrau ym mis Medi.
Bydd yn cynnwys gwasanaeth bysiau bob awr rhwng Rhuthun a Wrecsam, gan wella'r gwasanaeth presennol bob dwy awr, a gwasanaeth bob awr rhwng Wrecsam a'r Rhyl ar ddydd Sul.
Ymunodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, â Thrafnidiaeth Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam i gyhoeddi lansiad T51 newydd TrawsCymru.
Gan ddisodli'r gwasanaethau 51/X51 presennol, bydd y gwasanaeth T51 newydd yn dechrau gweithredu ddiwedd mis Medi eleni a bydd yn gwella cysylltiadau rhwng y Rhyl, Dinbych, Rhuthun a Wrecsam. Bydd yn cael ei weithredu gan Arriva.
Wrth gyhoeddi'r gwasanaeth newydd, dywedodd Ken Skates:
"Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru am wella trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau yn y rhan hon o Gymru i sicrhau cyfleoedd a photensial i'r rhanbarth.
"Ym mis Mai, cyhoeddais flaenoriaethau brys ac mae gwasanaeth bysiau TrawsCymru newydd yn enghraifft glir bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny.
"Mae gwasanaethau mwy aml, prisiau symlach, cysylltiadau â gwasanaethau bysiau eraill a cherbydau mwy newydd i gyd yn rhan o'r gwasanaeth newydd hwn."
Dywedodd Adam Marshall (Pennaeth Masnachol Arriva Cymru):
"Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn rhaglen gyffrous i Arriva fod yn rhan ohoni – mae'n uchelgeisiol a bydd yn cyflawni gwelliannau sylweddol a fydd yn tyfu'r rhwydwaith, yn cynyddu newid o ran dulliau teithio ac yn creu cyfleoedd i bobl Gogledd Cymru.
"Mae Arriva yn edrych ymlaen at ymuno â theulu Traws Cymru gyda dechrau gwasanaeth T51 ym mis Medi. Rydym wedi gweithio'n agos gyda TrC, awdurdodau lleol a'n cwsmeriaid i lunio'r gwasanaeth hwn. Y canlyniad yw gwell cysylltedd, gwasanaethau mwy rheolaidd, prisiau is a buddsoddi mewn fflydoedd."
Gwelliannau Allweddol ar gyfer y Gwasanaeth T51 newydd:
O fis Medi 2025:
- Bysiau bob awr rhwng Rhuthun a Wrecsam (gwelliant i'r gwasanaeth presennol bob dwy awr)
- Cyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng Wrecsam a'r Rhyl ar ddydd Sul
- Prisiau symlach ac opsiynau tocynnau digidol
O fis Mawrth 2026:
- Integreiddio gwell â gwasanaethau rheilffyrdd a llwybrau eraill TrawsCymru
- Cerbydau modern, hygyrch newydd wedi'u cynllunio ar gyfer cysur a chynaliadwyedd
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Rhwydwaith Gogledd Cymru a'r gwasanaeth T51, ewch i: trc.cymru/RhwydwaithGogleddCymru.