English icon English
Cymru'n Gweithio

Gwasanaeth Cymru’n Gweithio’n hanfodol wrth ymdrin ag effeithiau’r coronafeirws

Working Wales service crucial in dealing with Coronavirus impact

Flwyddyn ar ôl iddo gael ei lansio, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud y bydd Cymru’n Gweithio’n chwarae rôl hanfodol wrth helpu Cymru i adfer o effeithiau’r coronafeirws.

Ers Mai 2019, mae Cymru’n Gweithio, sy’n cael ei ddarparu drwy Yrfa Cymru, wedi rhoi cymorth cyflogadwyedd uniongyrchol i dros 31,500 o oedolion a thros 6,000 o bobl ifanc wrth iddynt chwilio am swyddi.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae Cymru’n Gweithio eisoes wedi helpu miloedd o bobl, a bydd y cymorth hwnnw’n bwysicach nag erioed wrth inni ymdrin ag effeithiau economaidd y coronafeirws.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd y galw am y gwasanaeth hanfodol hwn yn cynyddu’n sydyn yn y tymor byr, gan ei bod yn debygol y bydd lefelau diweithdra’n codi’n sylweddol yn ystod y misoedd nesaf.

“Bydd sicrhau bod unigolion yn cael y cyngor a’r arweiniad priodol i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a dod o hyd i waith yn hanfodol er mwyn adfer ein heconomi.”

Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac mae’n cynnig ffordd symlach o roi cymorth cyflogadwyedd drwy ddarparu man cyswllt sengl ar gyfer pobl lle y gallant gael y cyngor a’r hyfforddiant arbenigol, wedi eu personoli sydd eu hangen i gael a chadw swyddi parhaol o ansawdd uchel.

Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys asesiad o’r hyn sy’n rhwystro rhywun rhag cael swydd; cyngor, arweiniad a chyfeirio; chwiliadau swyddi; ysgrifennu CV; yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliadau a dod o hyd i leoliadau gwaith.

Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn parhau i chwarae eu rôl hanfodol drwy ddulliau rhithwir, gan gynnwys gwerthuso a deall anghenion unigolyn drwy eu cyfleusterau sgwrsio dros y we a’u gwasanaeth ffôn.

Mae’r rhaglen hefyd yn darparu adnoddau pwysig ar gyfer gweithwyr ar ffyrlo, fel cyrsiau ar-lein yn rhad ac am ddim lle y gall unigolion ddatblygu eu sgiliau.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Hoffwn i ddiolch i bob un ohonoch chi sy’n darparu’r gwasanaeth pwysig hwn am bopeth dych chi’n ei wneud i wella rhagolygon unigolion, ac yn y pen draw, eu bywydau.

“Fel llywodraeth, rydyn ni’n benderfynol o weld busnesau Cymru yn ffynnu unwaith eto, gan helpu pobl i gael y cyfleoedd pwysig hynny i gael swyddi a helpu ein heconomi i ffynnu i’r un graddau ag yr oedd cyn y pandemig.

“Bydd gan Gymru’n Gweithio rôl hanfodol i’w chwarae yn y dyfodol, a hoffwn i annog unrhyw un sydd wedi cael ei ddiswyddo neu sy’n chwilio am gymorth a chyngor i gysylltu â’r tîm.”

Rhywun sydd wedi elwa ar y gwasanaeth yw Christopher, a fu yn y fyddin am 14 mlynedd, ond nid oedd yn sicr beth i’w wneud nesaf o ran gyrfa.

Diolch i gymorth gan Gymru’n Gweithio, mae wedi llwyddo i gael swydd newydd ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd.

Dywedodd Christopher:

“Roeddwn i wedi bod yn y fyddin am tua 14 mlynedd, ond pan adawais i, doedd dim syniad gen i beth i’w wneud nesaf. Y lluoedd arfog fu fy mywyd.

“Ces i gymorth gwych gan y cynghorydd gyrfaoedd yn ystod y broses ymgeisio, i sicrhau cyllid a hyfforddiant. Gweithion ni ar gynllun gweithredu gyda’n gilydd, a gwnes i ymchwil i swyddi y gallwn i wneud cais amdanyn nhw ar ôl hyfforddi.

“Heblaw am Gymru’n Gweithio, dw i ddim yn credu byddwn i yn fy sefyllfa bresennol. Dw i wedi profi ymdeimlad gwych o gyflawni, ac mae hynny wedi fy annog i astudio ar gyfer gradd.”

Dywedodd Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence:

"Mae blwyddyn gyntaf Cymru’n Gweithio wedi bod yn llwyddiannus dros ben, gyda'n cynghorwyr arbenigol yn darparu cymorth ar gyfer dros 37,000 o bobl ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

“Wrth inni feddwl am y dyfodol yn y dyddiau heriol hyn, hoffwn i roi sicrwydd i bobl fod ein cynghorwyr gyrfaoedd ar gael dros y ffôn, drwy ein cyfleuster sgwrsio dros y we a thrwy ein sianeli yn y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn parhau i roi’r cymorth a’r arweiniad sydd eu hangen ar bobl i gael swydd.”