English icon English

Gwasanaeth Diwrnod VE gyda Phrif Weinidog Cymru i'w gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf

VE Day service, led by the First Minister of Wales, to be held at Llandaff Cathedral

Mae gwasanaeth arbennig gyda Phrif Weinidog Cymru i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd.

Bydd tua 250 o bobl o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd heno i anrhydeddu a chofio'r rhai a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd. Bydd y seremoni yn dod â chyn-filwyr, enwogion a gweinidogion ynghyd i dalu teyrnged i'r aberth a'r cyfraniad a wnaed i sicrhau heddwch yn Ewrop 80 mlynedd yn ôl.

Bydd munud o dawelwch i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau. Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal cyn y Gwasanaeth Cofio a Diolchgarwch Cenedlaethol ar gyfer Diwrnod VE, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau yn Abaty Westminster.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Mae'n fraint cael mynd i Eglwys Gadeiriol Llandaf i gofio dewrder a gwydnwch eithriadol y rhai a frwydrodd dros ein rhyddid.

"Diben yr achlysur hwn yw anrhydeddu pobl gyffredin o Gymru a wnaeth bethau anhygoel. Dim dyddiad arall yn ein llyfrau hanes yn unig yw hwn. Roedd hon yn foment a newidiodd fywydau, ac a newidiodd Gymru a'r byd.

"Wrth i nifer y cyn-filwyr sydd gyda ni o hyd leihau, mae'n dod yn bwysicach byth ein bod yn cadw eu straeon yn fyw a'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol."