English icon English
GP Video Consultation-2

Gwasanaethau digidol sydd wedi cael eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod yr achosion o coronafeirws i barhau

Digital services introduced in NHS Wales during coronavirus are here to stay

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi dweud y bydd y dechnoleg ddigidol newydd sydd wedi cael ei chyflwyno’n gyflym i gefnogi ymgyngoriadau digyswllt yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ystod pandemig y coronafeirws yn parhau.

Dros y misoedd diwethaf mae’r defnydd o dechnoleg wedi cael ei chyflymu ledled Cymru, gan ganiatáu i unigolion barhau i gael mynediad at gyngor a gwasanaethau gofal iechyd o’u cartrefi. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno ymgyngoriadau gydag ymgynghorwyr cyffredinol, gofal eilaidd a gofal cymunedol fideo yn genedlaethol.

Mae’r systemau newydd yn cefnogi gwasanaethau allweddol gan gynnwys ymarferwyr cyffredinol, nyrsys cymunedol, timau iechyd meddwl cymunedol, ymwelwyr iechyd a bydwragedd cymunedol, clinigau cleifion allanol a chlinigau diabetes er mwyn iddynt allu parhau i weld eu cleifion.  

Mae gweithgarwch rhithwir wrth ymdrin â chleifion allanol wedi dyblu yn ystod y pandemig. Erbyn hyn, mae dros fil o ymgynghoriadau o bell yn cael eu cyflwyno bob wythnos ar draws y GIG gan ddefnyddio gwasanaeth ymgynghori fideo newydd GIG Cymru, a thros wyth mil o ymgynghoriadau ers ei lansio.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi Cymunedau Digidol Cymru i ymestyn ei wasanaeth benthyg dyfeisiau digidol i ddarparu 1100 yn rhagor o ddyfeisiau. Cartrefi gofal sy’n cael blaenoriaeth wrth gyflenwi’r dyfeisiau hyn er mwyn iddynt barhau i allu defnyddio gwasanaethau iechyd a llesiant.

Mae adborth gan gleifion sydd wedi cael gofal rhithwir wedi bod yn gefnogol iawn i’r system. Yn ôl 97% o’r cleifion, mae’r ffordd newydd hon o weithio yn rhagorol, da iawn neu’n dda. Mae clinigwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cytuno â’r farn hon, a dywedodd 85% ohonynt (TEC Cymru) ei fod yn rhagorol, da iawn neu’n dda.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r systemau newydd sydd ar waith yn ymateb i’r camau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer diogelu unigolion nawr, ond byddant hefyd yn dod â manteision hirdymor i’r Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi gweithredu’n gyflym i gyflwyno’r gwasanaethau hyn, sy’n rhan annatod o’n cynllun ar gyfer iechyd a gofal yn Cymru Iachach, sef darparu gofal yn agosach at y cartref, yn y gymuned ac yng nghartrefi unigolion. 

“Mae’r dechnoleg yn caniatáu i glinigwyr gysylltu’n gyflymach â chleifion a chyda’i gilydd. Rwy’n falch bod yr adborth gan gleifion a chlinigwyr wedi bod yn gadarnhaol. Mae’n hanfodol bod pob un yn teimlo bod technoleg ddigidol yno i’w helpu i ddarparu gofal a’i dderbyn yng Nghymru.”

Gwasanaethau digidol eraill sy’n cefnogi’r ymateb i COVID

Diweddaru Gwasanaethau  

  • Mae rhaglen i ddiweddaru gwasanaethau gofal ac atgyfeiriadau’r llygaid wedi cael ei chyflymu i gyflenwi platfform cenedlaethol ar gyfer rheoli gofal.

  • Mae gwelliannau digidol i reoli cleifion mewn lleoliadau Gofal Critigol wedi cael ei chyflymu drwy raglen i gyflwyno system electronig newydd ar gyfer gofal critigol.

  • Mae diweddariad i’r system patholeg genedlaethol hefyd wedi cael ei chyflymu i ddarparu mwy o gadernid wrth i’r galw ar y gwasanaeth gynyddu.

Datrysiadau gweithio o bell

       Ymgyngoriadau fideo ar gyfer cleifion. Gofal sylfaenol - cafodd mwy na 5100 o ymgyngoriadau eu cynnal. Gofal eilaidd - cafodd mwy na 3000 o ymgyngoriadau eu cynnal. Gofal cymunedol - mae 220 o staff cartrefi gofal wedi cael hyfforddiant ar ddefnyddio’r system gan Gymunedau Digidol Cymru.

  • Mae Microsoft Teams wedi cael ei gyflwyno erbyn hyn ar draws GIG Cymru, gan fod yn offeryn diogel ar gyfer cydweithio effeithiol rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r platfform yn caniatáu i drafodaethau gael eu cynnal gan ddefnyddio fideo, sain, negeseuon a rhannu ffeiliau ar draws grwpiau a disgyblaethau er mwyn helpu i gydlynu gofal.
  • Gweithio o bell gan ymgynghorwyr cyffredinol – yn cefnogi ymgynghorwyr cyffredinol a staff allweddol i weithio o gartref. Mae tipyn mwy na 1300 o ddefnyddwyr wedi cofrestru.

       Consultant Connect – Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddarparu’r dechnoleg hon, sy’n rhoi mynediad cyflym ac uniongyrchol i arbenigwyr mewn ysbytai ar gyfer cyngor ac arweiniad ar reoli cyflwr claf, i’r holl ymarferwyr sy’n gweithio mewn gofal sylfaenol yn y GIG.

Dyfeisiau

  • Dyfeisiau digidol ar gyfer cartrefi gofal – mae gwaith ar y gweill i helpu i gyflenwi 1100 o ddyfeisiau i gartrefi gofal ar gyfer cynnal apwyntiadau rhithwir y GIG, a helpu teuluoedd i gadw mewn cysylltiad.
  • Dyfeisiau digidol ar gyfer byrddau iechyd – mae mwy na 1000 o ddyfeisiau yn cael eu cyflenwi i leoedd fel ysbytai.

Seilwaith a rhannu data

  • Mae lled band y rhwydwaith a’r seilwaith wedi cael eu diweddaru – er mwyn ymdopi â’r galw a chynnal ymgyngoriadau fideo.
  • Mae modd gweld delweddau meddygol ar draws ffiniau byrddau iechyd erbyn hyn – mae diweddariadau i Borthol Clinigol Cymru yn ddiweddar yn golygu bod clinigwyr yn gallu cael mynediad at ragor o wybodaeth am gleifion, a hynny yn gyflymach, gan olygu bod diagnosis yn cael ei roi yn gyflymach. Mae hyn hefyd yn lleihau ar y baich gweinyddol a chostau cludiant.  
  • Mynediad i’r porthol clinigol i ymgynghorwyr cyffredinol – i weld gwybodaeth am ysbytai fel gwybodaeth gryno am ryddhau cleifion o’r ysbyty a llythyrau clinigol oddi wrth unrhyw ysbyty.

Nodiadau i olygyddion

Rhwng 27 Mai a 2 Mehefin, cynhaliwyd 1315 o ymgyngoriadau o bell ar draws y GIG gan ddefnyddio Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru. Mae mwy na 8100 o ymgyngoriadau wedi cael eu cynnal drwy’r gwasanaeth hwn ers ei lansio.