English icon English

Gweinidog Addysg, Kirsty Williams - Datganiad ar apelio am Gymwysterau Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a TGAU

Education Minister, Kirsty Williams – Statement on appeals for A levels, AS, Skills Challenge Certificate and GCSEs

“Rhoddais gyfarwyddyd i Gymwysterau Cymru yn gynharach yr wythnos hon i ehangu’r sail ar gyfer apelio am Gymwysterau Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a TGAU.

“Maen nhw wedi cadarnhau beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr. Yr wyf yn derbyn bod dysgwyr eisiau ac angen mwy o eglurder, a chredaf fod hyn yn cyflawni hynny.

“Bydd Cymwysterau Cymru a CBAC yn rhannu'r manylion llawn, ond gellir nawr gwneud apeliadau pan fo tystiolaeth o asesiadau mewnol y mae'r ysgol neu'r coleg wedi barnu eu bod ar radd uwch na'r radd a ddyfarnwyd iddynt.

“Mae sicrwydd na fydd neb yn cael gradd is wedi apelio, ac mae pob apêl yn rhad ac am ddim.”