English icon English
2-188

Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi mesurau newydd

Minister for Health and Social Services announces new measures

Mewn cynhadledd i'r wasg y bore yma cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nifer o fesurau newydd i ymdrin a coronafeirws

Angen cyn gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol i helpu Cymru ymateb i coronafeirws

Dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i leoliadau gofal cymdeithasol

Cynnydd mewn profion coronafeirws

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y gall fferyllfeydd agor awr yn ddiweddarach a chau awr ynghynt. Gallant hefyd gau am ddwy awr yng nghanol y dydd, os bydd angen er mwyn rhoi i'r staff fferyllol yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt i gyflawni'r rôl cyflenwi meddyginiaethau ac i ddiogelu eu hiechyd a'u lles eu hunain. 

Gofynnodd i fferyllfeydd cymunedol fod yn hyblyg yn ystod y cyfnod hwn fel y gallant ymateb i anghenion eu cwsmeriaid mwyaf agored i niwed, yn enwedig y rhai mewn grwpiau risg uchel.