English icon English
Trawsfynydd-3

Gweinidog Gogledd Cymru yn pwysleisio ymrwymiad i safle Trawsfynydd

North Wales Minister emphasises commitment to Trawsfynydd site

            Mae Gweinidog Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i safle Trawsfynydd yng Ngwynedd, ynghyd â'r posibiliadau at y dyfodol o ran datblygu adweithyddion modiwlaidd bach a thechnolegau cysylltiedig.

Gwnaeth Mr Skates ailbwysleisio'r ymrwymiad yng nghyfarfod cyntaf pwyllgor ymgynghori Gogledd Cymru sy'n dwyn ynghyd ACau, ASau ac arweinwyr awdurdodau lleol yr ardal  er mwyn clywed am  flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhanbarth a chyfrannu at y drafodaeth.

            Gallai'r posibiliadau sy'n bodoli yn Nhrawsfynydd o safbwynt defnyddio technoleg adweithydd modiwlar bach sicrhau manteision sylweddol i'r ardal leol a hefyd y rhanbarth rhangach, gan gynnwys y cyfleuster profi thermo-hydrolig yn M-SParc ac AMRC Cymru.  Gall hefyd ddatblygu'n ganolfan datblygu adweithyddion at ddibenion ymchwil meddygol, gan greu cyflenwad diogel a chynaliadwy o radioisotopau ar gyfer y DU.

            Dywedodd Ken Skates: "Mae safle Trawsfynydd yn llawn posibiliadau ym meysydd adweithyddion modiwlaidd bach ac isotopau meddygol ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn ei gefnogi. Rydym wrthi'n ystyried dull cyflenwi posibl ar gyfer Cymru a fyddai'n sicrhau bod modd datblygu safle Trawsfynydd a bydd y gwaith hwn yn agwedd allweddol ar y broses o hybu economi Gogledd Cymru, gan ychwanegu gwerth at waith Bargen Twf y Gogledd.

"Bydd dull cyflenwi priodol yn helpu i sicrhau bod y gymuned leol, ac yn wir Cymru gyfan, yn elwa i'r eithaf ar bosibiliadau'r safle a bydd yn ein helpu i gyflawni'r canlyniadau clir sydd wedi deillio o waith Ardal Fenter Eryri dros y saith blynedd diwethaf.

"Roeddwn hefyd yn falch o glywed heddiw fod llythyr bwriad wedi'i lofnodi yr wythnos hon rhwng Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor ac Ysgol Peirianneg Gemegol Prifysgol New Brunswick yng Nghanada. Mae'r ddwy Brifysgol yn ymrwymo drwy'r llythyr i gydweithio er mwyn datblygu cyfres o brosiectau ymchwil ar y cyd, gan gefnogi'r agendâu adweithyddion modiwlar bach ac adweithyddion uwch yn New Brunswick a Chymru." 

Gwnaeth y Pwyllgor hefyd drafod Bargen Twf y Gogledd a datblygiadau ym maes seilwaith trafnidiaeth o fewn y rhanbarth.