English icon English

Gweinidog yn croesawu Labordy Goleudy newydd yng Nghymru

Minister welcomes new Lighthouse Lab in Wales

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi croesawu’r cyhoeddiad ynglŷn â’r Labordy Goleudy newydd sy’n cael ei sefydlu yng Nghasnewydd fel rhan o’r cynllun i ymestyn y ddarpariaeth ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd y labordy newydd, a fydd yn cael ei leoli ym Mharc Imperial, yn weithredol erbyn diwedd mis Awst. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth CYdwasanaethau GIG Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sefydlu’r labordy.    

Dywedodd Mr Gething: “Rydw i'n hapus y bydd Labordy Goleudy newydd yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i ymestyn y ddarpariaeth. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar fuddsoddiad gwerth £5m gan Lywodraeth Cymru yn labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y safle hwn, a phan nad oes ei angen bellach ar gyfer profion coronafeirws, bydd yn cael ei ddefnyddio gan GIG Cymru.

Rydyn ni’n gwneud mwy o ddefnydd o’r system brofi sy’n weithredol ar draws y DU a’r rhwydwaith Labordai Goleudy. Bydd hyn yn cefnogi ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu drwy ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu manteisio ar y capasiti profi a’r amseroedd prosesu profion sydd eu hangen arnom, er mwyn bod yn barod ar gyfer yr hydref. Mae hefyd yn rhoi hwb arall o ran swyddi i sector gwyddorau bywyd Cymru – sector sy’n tyfu ar hyn o bryd.”

Bydd labordy Casnewydd yn prosesu profion o Loegr yn ogystal â Chymru.