English icon English
KW speech-2

Gweinidog yn croesawu'r cynnydd diweddaraf yn nifer y ceisiadau i brifysgolion Cymru

Minister welcomes latest increase in applications to Welsh universities

Yn ôl data ceisiadau myfyrwyr a gyhoeddwyd heddiw, gwelwyd cynnydd o 6% yn nifer y ceisiadau i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, y cynnydd mwyaf ymhlith pedair cenedl y Deyrnas Unedig. 

Mae'r ffigurau, a gyhoeddwyd gan UCAS ar gyfer ceisiadau hyd at 15 Ionawr, hefyd yn dangos bod cyfran yr ymgeiswyr o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wedi cynyddu 8% eleni.

Cyrhaeddodd cyfran y bobl 18 oed yng o Gymru a oedd yn gwneud cais am brifysgol y lefel uchaf erioed, gyda bron i draean yn gwneud cais am addysg uwch. Cododd cyfran yr holl ymgeiswyr o Gymru a wnaeth gais i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru i 76.3%, o 75.5% y llynedd.

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi diwygio'r system cyllid myfyrwyr yng Nghymru yn sylweddol, gyda newid sylfaenol tuag at gefnogi myfyrwyr gyda'u costau byw o ddydd i ddydd. Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop sy'n cynnig cefnogaeth cyfwerth â chostau byw i israddedigion amser llawn, rhan-amser ac ôl-raddedig.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Rwy'n falch iawn o weld cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau i brifysgolion Cymru, er gwaethaf y gostyngiad cyffredinol yn nifer y bobl ifanc 18 oed yng Nghymru. Mae’n prifysgolion ar y blaen yn y Deyrnas Unedig o ran boddhad myfyrwyr ac effaith ymchwil, ac mae'n wych gweld mwy a mwy o fyfyrwyr yn dewis ein prifysgolion.

"Mae ein diwygiadau i gyllid myfyrwyr yn ei gwneud hi’n haws i bob myfyriwr reoli ei gostau o ddydd i ddydd. Gwyddom mai dyma'r rhwystr mwyaf rhag cael mynediad i addysg uwch, boed yn fyfyriwr traddodiadol sy’n gadael yr ysgol yn 18 oed, rhywun sy'n cyfuno gwaith ac astudio neu fyfyriwr o gefndir anhraddodiadol sy'n mynd ymlaen i wneud gradd Meistr.

"Mae ein ffigurau yn dangos bod ein diwygiadau yn gweithio. Rwy'n benderfynol o barhau i agor addysg uwch i fyny i fwy o bobl ac rwy'n arbennig o falch o weld y bwlch rhwng yr ymgeiswyr mwyaf breintiedig a difreintiedig yn culhau."