English icon English
IMG 0385-2

Gweinidog yr Amgylchedd yn y Rhyl i weld gwaith ar y cynllun amddiffyn arfordirol blaenllaw gwerth £30 miliwn

Environment Minister inspects progress at flagship £30m Rhyl coastal defence scheme

Bu Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn y Rhyl heddiw (dydd Mercher 19 Awst) yn ymweld â’r safle gwaith.

Ym mis Rhagfyr 2013 gwnaeth y Rhyl – gyda rhannau eraill o’r arfordir yn Sir Ddinbych – ddioddef rhai o’r llifogydd gwaethaf ers 20 mlynedd, gyda llawer o drigolion yn gorfod gadael eu tai dros dro oherwydd difrod gan y llifogydd.

Ers hynny mae gwaith ar nifer o amddiffynfeydd llifogydd wedi cael ei wneud yn y dre a’i chyffiniau – gan gynnwys amddiffynfeydd meini o flaen yr amddiffynfeydd arfordirol presennol yn Nwyrain y Rhyl.

Dechreuodd gwaith ar y prosiect dwy flynedd – sy’n cynnwys gosod 128,000 o amddiffynfeydd meini o flaen yr amddiffynfeydd presennol, ynghyd â wal 600 metr i amddiffyn rhag y môr a phromenâd – ym mis Ebrill eleni.

Cyfanswm gwerth y prosiect yw tua £30 miliwn, a disgwylir i’r gwaith leihau’r perygl o lifogydd i 472 eiddo yn y dre.

Mae’r cynllun yn un o nifer o gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a lliniaru’r perygl o lifogydd mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu yn Sir Ddinbych.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n dda iawn gen i fod yn y Rhyl i weld y cynnydd ar y cynllun mawr hwn ar gyfer amddiffyn ein harfordir, a chlywed am y ffordd bydd y cynllun yn lleihau’r perygl o lifogydd i gannoedd o gartrefi a busnesau yn yr ardal.

“Mae’n enwedig o dda gen i glywed, diolch i’r awdurdod lleol a’r contractwyr, fod y gwaith ar y prosiect arfordirol allweddol hwn yn gallu parhau’n ddiogel drwy gydol argyfwng COVID-19.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Dyma un o’n prosiectau rheoli perygl arfordirol mwyaf, ac mae’n tanlinellu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â chanlyniadau uniongyrchol newid yn yr hinsawdd, drwy leihau’r perygl i fywyd gan lifogydd.

“Diolch i’r cynllun mawr hwn, bydd trigolion a pherchnogion busnesau’n fwy tawel eu meddyliau ynghylch y perygl o lifogydd yn yr ardal hon.”

Ychwanegodd hi: “Rydyn ni’n ymwybodol o’r perygl uwch o lifogydd ledled Cymru oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac rydyn ni wedi cynyddu ein cymorth ariannol ac ymarferol ar gyfer awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i weithredu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd i leihau’r perygl, a datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.  .

“Mae hyn yn cynnwys cyllid grant o 100% ar gyfer yr holl waith paratoi a dylunio prosiectau, yn ogystal â’n rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol gwerth £2 miliwn.”

Mae ymweliad y Gweinidog yn dod cyn i Strategaeth Newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd gael ei chyhoeddi yn yr hydref.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

384 -2  - Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn ystold ymweliad i gynllun amddiffyn arfordirol yn y Rhyl, gyda Dieter Goliath o Balfour Beatty (Ch) a Wayne Hope, o Gyngor Sir Ddinbych

385 - 2- Golygfa o'r gwaith i'r gynllun amddiffyn arfordirol yn y Rhyl