Gweinidog yr Economi, Ken Skates ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur
Minister for Economy, Ken Skates on the latest Labour Market Statistics
Gan gynnig sylwadau ar Ystadegau y Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
“Er ei bod yn galonogol bod diweithdra yng Nghymru yn parhau i fod yn is na chyfradd y DU, mae ffigurau heddiw eto yn ein hatgoffa o’r effaith ddifrifol y mae’r coronafeirws yn parhau i’w gael ar ein pobl, ein busnesau a’n heconomi.
“Rydyn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i warchod cwmnïau a swyddi rhag effeithiau’r pandemig, ac ar yr un pryd yn helpu pobl ddod o hyd i waith newydd. Pecyn cymorth busnes Llywodraeth Cymru yw’r un mwyaf hael a chynhwysfawr yn y DU, ac mae mwy na £1.7bn eisoes wedi cyrraedd cyfrifon banc busnesau ledled Cymru. Mae’r cymorth hwn wedi gwarchod dros 125,000 o swyddi allai fod wedi eu colli fel arall.
“Mae rhagor o gyllid yn parhau i gyrraedd busnesau pob dydd ac yn ddiweddarach yr wythnos hon byddwn yn rhoi amlinelliad o £200m arall sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cwmnïau o Gymru ac i warchod swyddi yng Nghymru.
“Rydyn ni hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o sicrwydd i fusnesau ac unigolion drwy gynnig sicrwydd na fydd cymorth sydd ar gael drwy ymyriadau megis y Cynllun Cadw Swyddi yn dod i ben cyn i’r economi fod yn barod.”