Y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y ffigurau diweithdra isaf erioed yng Nghymru
Minister for Economy, Transport and North Wales on record low unemployment figures in Wales
Wrth drafod yr ystadegau diweddaraf ar gyfer y Farchnad Lafur, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae’r ystadegau heddiw yn dangos bod ffigurau diweithdra yng Nghymru yn is na thri y cant, y ffigur isaf erioed. Dyma'r lefel isaf ers i gofnodion ddechrau bron 25 mlynedd yn ôl, ac yn is na chryn dipyn na'r ffigur ar gyfer y DU – a chyda'r gyfradd cyflogaeth yng Nghymru hefyd i fyny o gymharu â'r un cyfnod y llynedd mae gennyn ni lawer i ymfalchïo ynddo fe.
"Rydyn ni yn Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i ysgogi ffyniant a thwf ledled Cymru. Mae ymyriadau diweddar fel ein buddsoddiad o £650,000 yn Williams Medical Supplies, a fydd yn arwain at 91 swydd newydd yn cael eu creu yn y cymoedd, yn enghraifft arall o'r camau rhagweithiol rydyn ni'n eu cymryd i gefnogi busnesau ac i greu cyfleoedd ar gyfer swyddi o ansawdd uchel wrth wraidd ein cymunedau."
Nodiadau i olygyddion
Ystadegau llawn yma: https://llyw.cymru/ystadegau-economaidd-allweddol?_ga=2.259872650.1430267654.1582020043-70586086.1558455052