Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur
Minister for Economy, Transport and North Wales, Ken Skates on the latest Labour Market Statistics
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, mewn ymateb i’r ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur:
“Mae’r ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur yn dangos bod diweithdra yng Nghymru yn parhau ar lefelau isel iawn. Mae hyn yn tystio i waith blaengar Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi ein heconomi drwy gyfnod anodd.
“Rydym yn cydnabod y ffaith bod y pandemig Coronafeirws a’r llifogydd diweddar yn creu heriau newydd i’n heconomi nad ydym wedi gweld eu tebyg o’r blaen. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â banciau, busnesau, undebau llafur a grwpiau sy’n cynrychioli busnesau wrth i’r sefyllfa hon sy’n prysur newid ddatblygu a byddwn yn ychwanegu at y mesurau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi sy’n cynnwys y rhyddhad gwerth £200 miliwn o ran ardrethi busnes a’r seibiant ad-dalu cyfalaf o dri mis i gwsmeriaid y Banc Datblygu. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau’r pecyn cymorth rhagweithiol ac ymatebol sydd ei angen ar fusnesau Cymru a’n heconomi ehangach.”