Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur
Minister for Economy, Transport and North Wales, Ken Skates on the latest Labour Market Statistics
Wrth siarad am Ystadegau’r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
“Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ar fywyd pob ohonom ac mae hi wedi bod yn gyfnod enbyd o anodd i’r economi. Er calondid yw gweld bod y ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi codi yn y tri mis diwethaf, a bod diweithdra yn dal yn is na lefel y DU, rydym yn gwybod bod dyddiau anodd o’n blaenau.
“Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar ein busnesau a’n pobl, ac rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n gyflym ac yn benderfynol i’w diogelu. Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi darparu pecyn cymorth gwerth dros £2bn i fusnesau, sy’n fwy hael nag unrhyw un o wledydd eraill y DU. Mae rhagor na £1.75bn o hwnnw bellach yng nghyfrifon banc busnesau Cymru ac mae wedi diogelu dros 125,000 o swyddi a fyddai wedi’u colli hebddo.
“Mae’n bwysig hefyd cynllunio sut i helpu’r economi i dyfu ar ôl y pandemig. I’r perwyl hwnnw, cyhoeddais heddiw ein Cenhadaeth Ailadeiladu a Chadernid Economaidd sy’n disgrifio sut y byddwn yn ailadeiladu economi Cymru ar ôl Covid fel ei bod yn fwy ffyniannus, teg a gwyrdd nag erioed o’r blaen. Bydd hynny’n cynnwys canolbwyntio ar greu cyfleoedd i bobl ailhyfforddi ac i wella’u sgiliau fel na chaiff neb ei adael ar ôl yn sgil y pandemig.”