Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ar ystadegau diweddaraf y farchnad lafur
Minister for Economy, Vaughan Gething on the latest labour market statistics
Wrth sôn am ystadegau'r farchnad lafur heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae pandemig y Coronafeirws nid yn unig wedi bod yn argyfwng iechyd i ni yma yng Nghymru, ond mae wedi bod yn un economaidd hefyd. Mae unigolion a busnesau wedi wynebu un o'r blynyddoedd anoddaf erioed - ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi busnesau Cymru drwy'r pandemig hwn, a bydd yn parhau i wneud.
“Rydym wedi cymryd camau beiddgar i ddiogelu cwmnïau a bywoliaethau. Mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £2 biliwn a mwy wedi helpu busnesau ar hyd a lled Cymru drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Mae wedi diogelu dros 160,000 o swyddi, a dim ond yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd y byddai gan fusnesau sy'n dal i fod dan gyfyngiadau, megis tafarndai, bwytai a lleoliadau adloniant yr hawl i daliadau pellach o hyd at £25,000 i'w helpu gyda'u costau hyd at ddiwedd mis Mehefin. Bydd y busnesau hynny hefyd yn parhau i elwa ar ein cynllun sy’n rhoi 100% o ryddhad ardrethi am 12 mis yng Nghymru.
“Mae ein gwasanaeth Cymru'n Gweithio wedi cefnogi dros 20,000 o bobl o ran sgiliau a swyddi, gan gynnig cyngor a chymorth i bobl 16 oed a throsodd i ddod o hyd i waith, mynd ar drywydd hunangyflogaeth neu ddod o hyd i le mewn addysg neu hyfforddiant, gyda chymhellion i gyflogwyr recriwtio unigolion y mae Covid-19 yn effeithio fwyaf arnynt.
“Fy mhrif flaenoriaeth yn awr yw arwain adferiad economaidd Cymru. Byddaf yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â busnesau a chydag undebau llafur i ailadeiladu a chryfhau ein heconomi; diogelu bywoliaethau a chreu swyddi newydd ledled Cymru.”