English icon English
Quebec DoI-2

Gweinidogion Rhyngwladol yn cyhoeddi bod datganiad o Fwriad wedi’i lofnodi i gryfhau perthynas Québec â Chymru

International Ministers announce the signing of a Declaration of Intent aimed at strengthening Quebec’s Relations with Wales

Defnyddiwyd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Cymru a Nadine Girault, Gweinidog La Francophonie a Chysylltiadau Rhyngwladol Québec, eu cyfarfod cyntaf i lofnodi datganiad o fwriad a fydd, ymysg pethau eraill, yn ceisio cryfhau perthynas Cymru a Québec drwy gydgyfranogi mewn gweithgareddau ym maes yr economi, arloesi, diwylliant ac addysg.

Mae’r ddwy weinidog yn awyddus i gynyddu masnach drwy hyrwyddo mynediad at farchnadoedd a chadwyni cyflenwi, yn ogystal â thrwy gyflwyno mentrau sy’n hybu twf busnes a chyfleoedd buddsoddi ar gyfer Cymru a Québec.

Yn y blynyddoedd diwethaf, yn sgil dyhead cryf Cymru a Québec i ddwysáu eu cysylltiadau economaidd, sefydlwyd cynrychiolaeth gyntaf Cymru yng Nghanada yn 2018, ym Montreal. Mae’r Cymry yn awyddus i gryfhau eu perthynas â Québec er mwyn amrywio eu partneriaethau rhyngwladol. Mae ymweliad Eluned Morgan yn deillio hefyd o strategaeth ryngwladol gyntaf Llywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Ionawr 2020.

Dwedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Cymru:

“Yn y misoedd diwethaf, mae Nadine Girault a minnau wedi datgelu gweledigaeth newydd ar gyfer ein gwaith rhyngwladol yng Nghymru a Québec. Llofnodi’r datganiad hwn yw’r bennod nesaf yn ein perthynas wrth inni roi ein cynlluniau rhyngwladol ar waith gyda’n gilydd. Sefydlwyd Swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghanada ym Montreal cwta ddwy flynedd yn ôl, ac mae hyn yn enghraifft wych o bwysigrwydd gwaith rhyngwladol Llywodraeth Cymru o amgylch y byd a ffrwyth ein gwaith yma yn Québec.”

Dwedodd Nadine Girault, Gweinidog La Francophonie a Chysylltiadau Rhyngwladol Québec

“Mae Cymru a Québec wedi mwynhau perthynas ardderchog ers dros 10 mlynedd. Mae’r datganiad o fwriad a lofnodwyd heddiw yn brawf o’r sail gadarn sydd i’r berthynas honno, ac rwy’n falch iawn o’r datblygiad newydd hwn. Mae rhai cwmnïau o Québec eisoes wedi hen ymsefydlu yng Nghymru ac mae’r synergeddau rhwng economïau ein gilydd yn amlwg. Hoffwn hefyd dynnu sylw at waith rhagorol Swyddfa ein Llywodraeth yn Llundain, sydd wedi bod yn gweithio’n galed i godi’r cydweithrediad hwn i’r lefel nesaf.”