English icon English

Gweinidogion yn croesawu Cynllun Cefnogi Swyddi newydd y Canghellor, ond yn rhybuddio bod diffyg cefnogaeth i ddiwydiannau mawr Cymru

Ministers welcome Chancellor’s new Job Support Scheme, but warn of lack of support for major Welsh industries

Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi croesawu y mesurau a amlinellwyd heddiw gan y Canghellor am Gynllun Cefnogi Swyddi newydd, ond mae’n rhybuddio nad oes digon o fuddsoddi mewn hyfforddiant yn y cynllun, a bod angen mawr amdano, a mesurau i helpu i greu swyddi.   

Mynegodd y Gweinidog ei siomedigaeth hefyd o’r diffyg cefnogaeth ychwanegol i rai o’r sectorau yr effeithir fwyaf arnynt yng Nghymru, megis dur ac awyrofod, gan rybuddio nad yw y cynllun hwn yn cynnig digon, a’i fod yn rhy hwyr i rai o’r gweithwyr sy’n colli eu swyddi.    

Meddai Rebecca Evans y Gweinidog Cyllid:

“Wedi pwyso am ragor o gymorth ar gyfer cymorthdaliadau cyflogau, dwi’n croesawu’r Cynllun Cefnogi Swyddi ond yn pryderu na ddaw gyda buddsoddiad newydd ar gyfer hyfforddi fydd yn hanfodol i ddiogelu bywoliaeth pobl yn y tymor hir. 

“Er bod y mesurau munud olaf a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw yn rhwystro’r canlyniadau gwaethaf o fod ar ochr dibyn y ffyrlo, mae angen gwneud mwy i helpu y di-waith ddod o hyd i swyddi newydd ac i gymell cyflogwyr i ddod o hyd i weithwyr newydd.  I rai gweithwyr mae’r cyhoeddiad hwn yn rhy hwyr.” 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Tra bo’r cymhorthdal cyflogau yn ddatblygiad i’w groesawu, rydyn ni wedi bod yn galw am gymorth penodol i’r sector, ac nid yw cyhoeddiad heddiw yn gwneud dim i gynnig hynny. 

“Mae angen cymorth wedi ei dargedau ar ein sector awyrofod, er enghraifft, sy’n hanfodol i economi Cymru a’r DU a bywioliaeth miloedd o bobl, a heddiw mae nifer o swyddi yn parhau i fod mewn perygl mawr, pan oedd gan y Canghellor gyfle gwirioneddol i gynnig y sicrhad oedd ei angen. 

“Mae hefyd yn siom nad yw hyn yn darparu ar gyfer gweithwyr a busnesau pan ddaw i hyfforddi a gwella sgiliau.  Mae’n amlwg mai y gweithwyr sydd angen yr help hwnnw fwyaf fydd ar eu colled yn y tymor hir.”