English icon English

Gweinidogion yn croesawu cysylltiadau cryfach wrth gyhoeddi argymhellion Tasglu Môr Iwerddon

Ministers welcome strengthened ties as Irish Sea Taskforce recommendations published

Mae'r argymhellion wedi eu cytuno gan yr holl bartneriaid ac mae'r camau nesaf yn cynnwys cyfarfod dwyochrog blynyddol rhwng swyddogion trafnidiaeth Iwerddon a Chymru.

Mae'r argymhellion hefyd yn amlinellu sut i gael gwell gwytnwch, gwell cynlluniau wrth gefn a fydd yn diogelu cysylltedd i deithwyr a gwella sut i reoli aflonyddwch.

Cyfarfu y Tasglu ym mis Mawrth y llynedd mewn ymateb i effaith cau Porthladd Caergybi dros dro ym mis Rhagfyr 2024. Gweithiodd aelodau o lywodraethau Iwerddon a Chymru, swyddogion trafnidiaeth a rhanddeiliaid ar y cyd ar adolygiad systematig a thrwyadl o'r hyn a ddysgwyd. Canolbwyntiodd y Tasglu ar ddefnyddio'r profiad hwn i ddiogelu cysylltedd ymhellach ac adeiladu gwytnwch ar draws porthladdoedd a seilwaith porthladdoedd, nawr ac yn y blynyddoedd i ddod. 

Meddai Seán Canney, y Gweinidog Gwladol sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth Ryngwladol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd:

"Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates am arwain y Tasglu dros y naw mis diwethaf, ynghyd â'r holl swyddogion a rhanddeiliaid sydd wedi gweithio arno. Rydym wedi cryfhau hen berthnasoedd a sefydlu rhai newydd, a fydd yn parhau trwy gyfarfodydd blynyddol a chyfathrebu rheolaidd.

Er fod yr amgylchiadau ymhell o fod yn ddelfrydol, rwy'n falch iawn bod ein dwy adran wedi dod yn agosach at ei gilydd ac edrychaf ymlaen at ddyfnhau'r berthynas hon dros y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae trafodaethau o fewn Tasglu Môr Iwerddon wedi atgyfnerthu pwysigrwydd Caergybi a'n porthladdoedd eraill sy'n wynebu Môr Iwerddon i gymunedau yng Nghymru ac Iwerddon a thu hwnt, a'n diddordeb a'n cyfrifoldeb cyffredin, nawr ac yn y dyfodol, i sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn tyfu.  Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos gan adeiladu ar ein perthynas gryfach."

 

Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad gan Lywodraeth Cymru am gyhoeddi argymhellion Tasglu Môr Iwerddon (14 Ionawr 2026) | LLYW.CYMRU