English icon English

Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau

Ministers announce new £1.4bn business support package

Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans a Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau er mwyn helpu busnesau ar draws Cymru.  

Mae’r cymorth hwn – sy’n ymestyn y pecyn a gyhoeddwyd ddoe – yn cyfateb i’r mesurau ar gyfer Lloegr gan ddarparu hwb y mae galw mawr amdano i fusnesau bach sy’n ei chael yn anodd ymdopi ag effaith yr argyfwng coronafeirws.

Mae’r pecyn newydd yn darparu gwyliau ardrethi busnes am flwyddyn i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru. Bydd grant o £25,000 yn cael ei gynnig hefyd i fusnesau yn yr un sector sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.

Mae hefyd yn darparu grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.  

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Mae’r pecyn cymorth newydd hwn yn cydnabod maint yr heriau digynsail yr ydym yn eu hwynebu ac yn darparu cymorth y mae mawr angen amdano i sectorau bregus yng Nghymru. Ond mae mwy eto i’w wneud.

“Ddoe, fe ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at y Canghellor er mwyn annog Llywodraeth y DU i ymyrryd a darparu amrywiaeth mwy uchelgeisiol o fesurau er mwyn helpu busnesau i reoli effeithiau cornafeirws.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn hollol ymrwymedig i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd ei angen ar y gymuned fusnes yn y cyfnod anodd hwn. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn arwydd clir o’n hymdrechion i barhau i ymladd i sicrhau hynny.

“Rydym yn parhau i gydweithio gyda Llywodraeth y DU yn ystod yr argyfwng cenedlaethol hwn, ac rwy’n gofyn am wyliau Yswiriant Gwladol a chymorth ariannol ar gyfer cyflogau.

“Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd busnesau bach a phobl hunangyflogedig nad oes ganddynt eiddo ardrethol. Rydym yn edrych i weld pa gymorth pellach y gallwn ni a Llywodraeth y DU ei ddarparu.”