Gweithgareddau Gwyliau i Blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymhleth
Holiday Activities for Children with Complex Additional Learning Needs
Mae cyllid o £30,000 wedi'i ddyfarnu i ddwy ysgol yn Sir y Fflint sy'n eu galluogi i ehangu'r ddarpariaeth wyliau i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cymhleth ledled y sir.
Yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus yn gynharach eleni, bydd cyllid Ysgolion Bro yn galluogi Cyngor Sir y Fflint i ddarparu gweithgareddau gwyliau strwythuredig i ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd, ac sy'n mynd i ysgolion eraill yn yr ardal, drwy gydol y flwyddyn ysgol 2025-26.
Bydd y rhaglen yn rhedeg am hyd at bedwar diwrnod yr wythnos yn ystod yr 13 wythnos o wyliau'r ysgol ac yn cynnig ystod amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys nofio, crefftau, theatr gerddorol, chwarae meddal, bowlio, dawnsio a gymnasteg.
Mae'r fenter yn mynd i'r afael â bwlch yn y ddarpariaeth i deuluoedd plant ag ADY cymhleth, sy'n aml yn ei chael yn anodd dod o hyd i weithgareddau gwyliau addas. Mae angen strwythur a threfn ar lawer o blant ag ADY yn ystod gwyliau'r ysgol, yn ogystal â pharhad yn eu cymorth proffesiynol, ond heb allu manteisio ar ddarpariaeth arferol yn ystod y gwyliau oherwydd eu hanghenion penodol.
Cafwyd adborth cadarnhaol gan rieni y daeth eu plant i'r sesiynau yn gynharach eleni:
"Rydyn ni wir wedi mwynhau dod i'r holl sesiynau yr wythnos hon. Mae wedi rhoi strwythur yr oedd gwir ei angen arnom ni yn ystod ein hwythnos i ffwrdd. Mae hefyd wedi bod yn braf bod gyda theuluoedd eraill rydyn ni'n eu hadnabod a chael cyfle i gwrdd â rhai rhieni newydd hefyd. Mae'n gallu bod yn eithaf anodd trefnu diwrnodau allan gyda ffrindiau o'r ysgol oherwydd bod eu hanghenion i gyd mor wahanol, felly mae hyn wedi bod yn hyfryd ac wedi golygu nad ydyn ni wedi teimlo'n ynysig yn ystod y gwyliau."
"Mae wedi bod yn wythnos mor hyfryd yn mynd i rywbeth sy'n berffaith ar gyfer anghenion fy mab, ac mae wedi cael llawer o le i chwarae heb brysurdeb y cyhoedd yn ystod y gwyliau hanner tymor. Fe wnaeth gwrdd â ffrindiau ysgol a chafodd gwrdd â ffrindiau newydd hefyd, sy'n wych. Roedd y staff yn gyfeillgar ac yn gwenu bob amser. Roedd hynny'n braf! Mae'r ddau ohonom yn gobeithio y gall y rhaglen hon barhau gan ei bod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ni, ac i fy mab yn enwedig."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae'r cyllid hwn yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol sicrhau bod profiadau ar gael i bob plentyn yn ystod y gwyliau sy'n eu cyfoethogi. Mae'r adborth gan deuluoedd yn Sir y Fflint yn dangos yn glir yr effaith drawsnewidiol y gall y ddarpariaeth hon ei chael ar deuluoedd cyfan. Dw i wrth fy modd ein bod ni, drwy drefniadau'r Ysgolion Bro, yn gallu cefnogi Sir y Fflint i ehangu'r rhaglen arloesol hon, a fydd yn cynnig seibiant hollbwysig, cymorth gan eraill a chyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol drwy gydol gwyliau'r ysgol."