English icon English

“Gweithio gyda’i gilydd ar gyfer adfer y Gogledd” – Ken Skates

“North Wales working together on future recovery” – Ken Skates

Mae Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a’u partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer adferiad llwyr y Gogledd a sicrhau bod y rhanbarth yn wyrddach, tecach a mwy llewyrchus, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.

          Roedd y Gweinidog yn siarad ar ôl cyfarfod diweddaraf Pwyllgor y Cabinet ar y Gogledd a ddaeth â gweinidogion y llywodraeth ac arweinwyr awdurdodau lleol ynghyd.

          Bu’r pwyllgor yn trafod materion allweddol i’r rhanbarth gan gynnwys cefnogi ynni carbon isel a sicrhau bod datblygiadau’n rhoi hwb i gadwyni cyflenwi.

          Cadarnhaodd y grŵp unwaith eto ei ymrwymiad i Fetro’r Gogledd fydd yn cefnogi teithio cynaliadwy, yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel ac yn lleihau allyriadau carbon.

          Roedd dyfodol canol trefi’r rhanbarth yn bwnc trafod hefyd, mater pwysig o gofio’r heriau anferth sy’n wynebu trefi Cymru oherwydd y pandemig.  Mae gwerth mwy na £70m o brosiectau Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wrthi’n cael eu cynnal ledled y Gogledd, gan gynnig cymysgedd o atebion i fanteisio ar gyfleoedd economaidd lleol ac i greu lleoedd cynaliadwy.

          Dywedodd Ken Skates: “Rydym yn wynebu cyfnod anodd iawn a bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un anodd i bawb.  Gweithio mewn partneriaeth yw un o’r pethau y mae’r Gogledd yn dda am ei wneud ac rwy’n falch bod y llywodraeth ac awdurdodau lleol wedi dod ynghyd unwaith eto i fynd i’r afael â phroblemau allweddol ac i ystyried sut y gallwn weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.

          “Gwnaethon ni ganolbwyntio ar gyfleoedd ar gyfer ynni carbon isel, Metro’r Gogledd a dyfodol canol ein trefi.  Nid mater o godi adeiladau newydd yn unig yw Trawsnewid ein Trefi.  Mae’n fater hefyd o greu cyfleoedd newydd a chreu canol trefi sy’n fywiog ac yn gynaliadwy y gall pobl fyw, gweithio, dysgu a hamddena ynddyn nhw

          “Er bod y sefyllfa’n parhau’n anodd, gallwn obeithio am ddyfodol gwell i’r rhanbarth.  Mae yna ddatblygiadau positif fel bargen Twf y Gogledd a’n cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth.  Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i weithio gyda’n gilydd fel rhanbarth wrth gyrchu at ein nod o ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy llewyrchus.”  

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd, Dyfrig Siencyn: “Rydym yn croesawu’r cyfle i gwrdd â Phwyllgor y Cabinet am drafodaeth a oedd yn un bwysig ac i’r pwynt, gan roi arbennig i’n blaenoriaethau economaidd yn y Gogledd. Gyda’r Fargen Dwf wedi’i sicrhau, rhaid inni nawr edrych yn galonogol tua’r flwyddyn i ddod gan ddechrau rhoi’r Fargen Dwf ar waith a gweithio gyda’n gilydd i bennu rhaglen o ymyriadau all helpu i godi’n cymunedau a’n pobl yn ôl ar eu traed.”