Gweithio gyda'n gilydd i wneud Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf

Making Wales a world class visitor destination by working together

  • Y Gweinidog yn cwrdd â'r sector ac eisiau bod yn gefnogwr mwyaf twristiaeth 
  • Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch newidiadau i'r trothwy 182 diwrnod ac wedi ymrwymo i ddiwygio ardrethi busnes i helpu'r diwydiant

Mae'r Gweinidog Menter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, eisiau bod yn gefnogwr mwyaf twristiaeth a gweithio gyda'r sector i wneud Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf.

Yn ddiweddar, cwrddodd â chadeiryddion pedwar Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol Cymru i glywed eu barn am sut y gall y llywodraeth gefnogi'r sector. Mae'r Gweinidog yn bwriadu cwrdd â chynrychiolwyr eraill.

Yn ystod ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan heddiw (dydd Mawrth Awst 18), dywedodd y Gweinidog:

"Rwyf am i'r Llywodraeth hon fod yn gefnogwr mwyaf twristiaeth. Rydyn ni am weithio gyda'r sector i wneud Cymru yn gyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf — gan gynnig croeso go iawn wrth hefyd helpu busnesau i dyfu, arloesi a llwyddo.

"Mae twristiaeth yn hanfodol bwysig i economi Cymru, gan gynhyrchu tua 4.3% o werth ychwanegol gros Cymru (£3.5 biliwn) a thros 11% o swyddi bob blwyddyn. Mae'n cynnal cymunedau, yn cefnogi swyddi ac yn helpu i rannu diwylliant, iaith a thirwedd Cymru â'r byd.

"Dyna pam rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i edrych ar sut y gallwn ni ddiwygio ardrethi busnes i gefnogi hamdden a lletygarwch, a pham rydyn ni'n ymgynghori ynghylch newidiadau i'r trothwy 182 diwrnod.

"Byddwn i'n annog cymaint o bobl yn y diwydiant â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Hoffwn i glywed yn uniongyrchol gan fusnesau twristiaeth am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu a'r cyfleoedd maen nhw'n eu gweld, ac rwyf wedi dechrau cwrdd â chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector yn ystod yr haf.

"Mae gan Gymru lawer o bethau gwych i'w cynnig i ymwelwyr a llawer o weithredwyr twristiaeth talentog. Drwy weithio gyda'n gilydd, rwy'n credu y gallwn ni ei gwneud yn haws i fusnesau wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau, helpu'r sector i ffynnu a sicrhau bod rhagor o bobl yn dewis Cymru fel lle i ymweld ag ef, ei fwynhau a dychwelyd iddo."

 Ar ran cadeiryddion pedwar Fforwm Twristiaeth Rhanbarthol Cymru, dywedodd Steve Hughson MBE – Cadeirydd Fforwm Canolbarth Cymru:

"Roedden ni'n falch o gael trafodaeth gynnar gydag Adam Price, y Gweinidog Menter, Cysylltedd ac Ynni, yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol gyda'n Gweinidog newydd – ac roedd yn amlwg ei fod yn teimlo'n frwd iawn dros y sector.

"Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad cynnar yr Ymgynghoriad ar Ardrethi Annomestig ar gyfer Llety Hunanddarpar ac yn edrych ymlaen at benderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth o'r ymgynghoriad a'r adolygiad arfaethedig o'r polisi. Rhaid iddo arwain at ostyngiadau ystyrlon yn y trothwy 182 diwrnod presennol, ochr yn ochr ag esemptiadau ymarferol, gan greu amgylchedd lle y gall twristiaeth helpu i gyflawni strategaethau cynhyrchiant a thwf y llywodraeth.

"Bydd y Fforymau Twristiaeth yn parhau i fod yn rhan annatod o sicrhau bod y llywodraeth a'r economi ymwelwyr gyfan yn gweithio gyda'i gilydd i greu dyfodol mwy cadarnhaol a chynaliadwy ar gyfer y sector pwysig hwn."