English icon English
2-188

Gweithredu pellach i warchod y bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf o goronafeirws

Further action to protect people at highest risk from coronavirus

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu’n uniongyrchol â phobl yng Nghymru sydd wedi’u datgan fel rhai sy’n wynebu risg uchel iawn o salwch difrifol oherwydd coronafeirws. 

Bydd pob person yn cael cyngor penodol ar sut orau i warchod eu hunain, yn seiliedig ar eu hanes meddygol a’u hanghenion iechyd.   

Bydd y llythyrau, sydd wrthi’n cael eu hanfon, yn cynnwys cyngor clir i aros gartref am 12 wythnos, ac yn rhestru’r gefnogaeth feddygol, ymarferol ac emosiynol sydd ar gael.

Mae awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i sicrhau y bydd y rhai sy’n derbyn y llythyr ac sydd angen cefnogaeth yn gallu ei chael ar lefel leol.

Bydd y cyfathrebu uniongyrchol hwn yn sicrhau pobl y bydd eu hanghenion meddygol parhaus yn parhau i gael eu diwallu, ac yn cynnwys gwybodaeth am sut gall pobl reoli eu cyflwr tra’n aros gartref ac osgoi cyswllt agos gydag eraill, oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol, gan gynnwys cyngor am ddosbarthu eu presgripsiynau iddynt a chael cefnogaeth ar gyfer byw o ddydd i ddydd.              

Mae pobl yng Nghymru sy’n byw gyda chyflyrau hir-dymor penodol mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau difrifol os byddant yn cael y feirws. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y rhai sydd wedi derbyn trawsblaniadau organau, a’r rhai sy’n byw gyda ffibrosis systig neu ganserau penodol, fel canser y gwaed neu fêr yr esgyrn. Mae rhai – ond nid pawb – sy’n derbyn mathau penodol o driniaethau cyffuriau, gan gynnwys y rhai sy’n amharu ar y system imiwnedd hefyd yn y grŵp hwn. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae hwn yn gyfnod eithriadol bryderus i bobl sydd â phroblemau iechyd.

“Rydyn ni’n cysylltu’n uniongyrchol â phawb yng Nghymru sy’n wynebu risg ddifrifol o salwch o goronafeirws, er mwyn darparu cyngor clir a theilwredig  i chi ar sut y gallwch warchod eich hunain orau. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cadw chi’n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Ond mae angen eich help arnom.

“Os byddwch yn derbyn llythyr, mae wir yn bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddyd i gadw’n ddiogel ac yn iach. Plîs arhoswch gartref a pheidiwch â gwahodd unrhyw un i’ch cartref, oni bai fod hyn yn gwbl hanfodol, er enghraifft, os ydych chi’n derbyn gofal.                     

“Mae cefnogaeth y cyhoedd i’r ymdrech hon yn hanfodol. Mae wir yn bwysig bod pawb yn cadw at y cyfarwyddyd ynghylch aros gartref a chadw pellter cymdeithasol, hyd yn oed os ydynt yn heini ac yn iach fel arfer a ddim yn teimlo mewn perygl. Mae gan filoedd o bobl yng Nghymru broblemau iechyd difrifol sy’n gwneud coronafeirws yn beryglus iawn iddynt, ac felly mae’n rhaid i bawb wneud eu rhan er mwyn atal lledaeniad y feirws.”

  

Y cyfarwyddyd i bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf yw: 

  • Osgowch yn llwyr gyswllt â rhywun sy’n dangos symptomau coronafeirws (COVID-19). Mae’r symptomau hyn yn cynnwys tymheredd uchel a/neu beswch newydd a pharhaus.  
  • Peidiwch â gadael eich tŷ am o leiaf 12 wythnos oni bai ei fod yn gwbl hanofodol.
  • Peidiwch â mynd i unrhyw gyfarfodydd. Mae hyn yn cynnwys ffrindiau a theuluoedd sy’n cyfarfod mewn mannau preifat e.e. cartrefi teuluoedd, priodasau, partïon a gwasanaethau crefyddol.
  • Peidiwch â mynd i siopa, hamddena neu deithio ac, wrth drefnu i fwyd neu feddyginiaeth gael eu dosbarthu, dylai’r rhain gael eu gadael ar garreg y drws i leihau unrhyw gyswllt.
  • Cadwch mewn cysylltiad gan ddefnyddio technoleg o bell fel ffôn, rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol.  
  • Cofiwch ddefnyddio gwasanaethau ffôn neu ar-lein i gysylltu â’ch meddygfa neu wasanaethau hanfodol eraill fel a phan fo angen.

   

DIWEDD  

Nodiadau i olygyddion

Nodidadau:

Mae dolen at y cyfarwyddyd ar gael yn https://llyw.cymru/guidance-on-shielding-and-protecting-people-defined-on-medical-grounds-as-extremely-vulnerable-from-coronavirus-covid-19?_ga=2.243393157.1425185607.1585060453-764861466.1544197856

Rhestr lawn o’r rhai sy’n perthyn i grŵp eithriadol agored i niwed:  

  1. Pobl sydd wedi derbyn trawsblaniad organ solet
  2. Pobl â chanserau penodol
    1. Pobl â chanser sy’n cael cemotherapi ar hyn o bryd neu radiotherapi radical ar gyfer canser yr ysgyfaint
    2. Pobl â chanserau’r gwaed neu fêr yr esgyrn fel lewcemia, lymffoma neu fyeloma sydd mewn unrhyw gam o’u triniaeth
    3. Pobl sy’n cael imiwnotherapi neu driniaethau gwrthgorffynnau parhaus ar gyfer canser
    4. Pobl sy’n cael triniaethau canser eraill wedi’u targedu a all effeithio ar y system imiwnedd, fel atalyddion cinas protein neu atalyddion PARP
    5. Pobl sydd wedi cael trawsblaniadau mêr yr esgyrn neu fôn-gelloedd yn ystod y 6 mis diwethaf, neu sy’n dal i gymryd cyffuriau gwrthimiwnedd  
  3. Pobl â chyflyrau resbiradol difrifol, gan gynnwys ffibrosis systig, asthma difrifol a COPD difrifol
  4. Pobl â chlefyd difrifol mewn un organ (e.e. Afu/Iau, Cardio, Arennol, Niwrolegol)
  5. Pobl ag afiechydon prin a namau cynhwynol ar eu metaboliaeth sy’n cynyddu’r risg o heintiau yn sylweddol (fel SCID, afiechyd crymangelloedd homosygaidd)
  6. Pobl sy’n cael therapïau gwrthimiwnedd sy’n ddigon i gynyddu’r risg o haint yn sylweddol
  7. Pobl sy’n feichiog gyda chlefyd sylweddol ar y galon, cynhenid neu gaffaeledig