English icon English
8-54

Gweithwyr hanfodol i gael gofal plant am ddim

Critical workers to get free childcare

Bydd rhieni sy’n gwneud swyddi hanfodol fel rhan o ymateb Cymru i’r coronafeirws yn cael gofal plant am ddim yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun cymorth gofal plant coronafeirws i gefnogi gweithwyr hanfodol Cymru.            

O dan y cynllun newydd, bydd cynghorau’n gallu defnyddio cyllid o Ddarpariaeth Gofal Plant Llywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr gofal plant cofrestredig i ofalu am blant cyn oedran ysgol gweithwyr hanfodol. Hefyd bydd plant sy’n cael eu hystyried fel rhai agored i niwed yn cael eu cynnwys yn y cynllun. 

Bydd y newidiadau’n darparu ar gyfer y tri mis nesaf ac yn rhoi gofal i blant dan bump oed.

Mae darpariaeth gofal plant bresennol Cymru’n darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn.         

Bydd y ddarpariaeth bresennol yn cael ei gohirio am y tri mis nesaf ac yn ei lle daw cynllun cymorth gofal plant y coronafeirws er mwyn cefnogi gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed.                    

Bydd Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu ei hymrwymiad i barhau i dalu i ddarparwyr gofal plant am yr oriau o ofal plant sydd wedi’u harchebu eisoes o dan y ddarpariaeth gofal plant am dri mis.               

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Julie Morgan: “Mae’n hollbwysig nad yw rhieni sy’n weithwyr hanfodol – y rhai ar y rheng flaen – yn wynebu rhwystrau yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws.

“Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn gofalu am eu plant gartref, ac felly nawr mae’n gwneud synnwyr i ni edrych ar beth mwy allwn ni ei wneud gyda’n cyllid gofal plant, yn enwedig i gefnogi’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen.

“Bydd y cynllun cymorth gofal plant coronafeirws yn sicrhau bod rhieni sy’n weithwyr hanfodol yn cael y gofal plant y mae arnynt ei angen, a bydd darparwyr gofal plant yn cael sicrwydd o ran sut bydd eu busnesau’n gweithredu.                 

“Rydw i hefyd eisiau talu teyrnged i’n darparwyr gofal plant ni, gan gynnwys lleoliadau Dechrau’n Deg, sydd wedi aros ar agor i ofalu am y plant hyn. Mae hyn wedi helpu i gefnogi ein hymateb i’r coronafeirws ac i ddarparu gofal diogel ar gyfer y rhai sydd ei angen yn ystod y cyfnod hynod heriol yma.”

Bydd cyfarwyddyd am y trefniadau newydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan.