
Gweledigaeth newydd i leihau marwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru a gwella'r gefnogaeth i bobl sy'n hunan-niweidio
New vision to reduce suicide deaths in Wales and improve support for people who self-harm
Bydd ymgyrch newydd ac uchelgeisiol i greu dealltwriaeth fwy tosturiol o achosion hunanladdiad a hunan-niweidio, ac ymateb iddynt, yn helpu i achub bywydau.
Heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, yn lansio strategaeth 10 mlynedd newydd Cymru, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion sy'n arwain pobl i feddwl am hunanladdiad, a gwella’r gefnogaeth i bobl sy'n hunan-niweidio.
Bydd yn tynnu'n uniongyrchol ar brofiad byw pobl ac yn targedu stigma ynghylch hunanladdiad a hunan-niweidio i greu diwylliant lle mae pobl yn gallu ceisio cefnogaeth heb ofn, ac heb gael eu beirniadu.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mwy na £2 miliwn yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ym Mhrifysgol Abertawe drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i wneud cynnydd sylweddol o ran deall y materion cymhleth hyn.
Mae'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yn nodi chwe phrif nod:
- Gwrando a dysgu – datblygu sylfaen dystiolaeth gadarn a chlywed gan bobl sydd â phrofiad byw
- Atal – mynd i'r afael â ffactorau risg
- Grymuso – cael gwared ar stigma, helpu pawb i siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio, gwrando ar ei gilydd, a’u helpu i ddod o hyd i gymorth pan fo angen
- Cefnogi – gwella gwasanaethau i bobl sy'n meddwl am hunan-niweidio a hunanladdiad
- Galluogi – sicrhau bod gwasanaethau sy'n cefnogi pobl sy'n wynebu risg uwch ledled Cymru yn adnabod pobl mewn angen ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth
- Ymateb – darparu cymorth amserol, tosturiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt pan fydd amheuaeth o hunanladdiad
Mae'r strategaeth yn cydnabod y gall hunanladdiad a hunan-niweidio effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oedran. Fodd bynnag, mae'r grwpiau sydd â'r cyfraddau uchaf o achosion yn wahanol ar gyfer hunanladdiad nag ar gyfer hunan-niweidio.
Mae hunanladdiad yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion canol oed (rhwng 30 a 55 oed), tra bod hunan-niweidio yn fwy cyffredin ymhlith menywod ifanc (15 i 19 oed). Mae'r gwahaniaeth hwn yn ein helpu i lywio dulliau wedi'u teilwra o fewn y strategaeth.
Mae'r strategaeth hefyd yn pwysleisio bod hunan-niweidio yn ffactor risg sylweddol ar gyfer hunanladdiad. Mae'n annog pawb i gymryd pob digwyddiad o hunan-niweidio o ddifrif a thrin y person mewn trallod gyda charedigrwydd a thosturi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
“Mae'r strategaeth uchelgeisiol hon yn canolbwyntio ar adeiladu dealltwriaeth, camau atal a chefnogaeth dosturiol i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad a hunan-niweidio.
“Trwy weithio ar draws adrannau'r llywodraeth a chyda'n partneriaid, rydym yn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol gan sicrhau bod cymorth ar gael ar unwaith i'r rhai sydd ei angen.
“Trwy gefnogi sefydliadau trydydd sector fel y Samariaid, a gweithio gyda nhw, byddwn yn cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio.”
Dywedodd Joshua, sydd wedi cael cefnogaeth gan y Samariaid ar ôl meddwl am hunanladdiad: “Rwy'n gweld bod cenhedlaeth o ddynion hŷn sydd ddim yn siarad am eu hiechyd meddwl oherwydd eu bod wedi tyfu i fyny mewn cyfnod pan nad oedd yn cael ei drafod.
“Y dyddiau hyn, mae pobl yn llawer mwy ymwybodol ac agored am iechyd meddwl, sy'n beth positif iawn. Fodd bynnag, mae demograffeg o fechgyn a dynion fy oedran i sy'n teimlo cywilydd o siarad amdano, neu’n teimlo ei fod yn dangos gwendid. Dw i wedi sylwi, er bod y sgwrs yn gwella, bod y mater hwn yn parhau.”
Bydd y strategaeth newydd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu gwasanaethau newydd a chymorth yng Nghymru.
Y llynedd, lansiodd Llywodraeth Cymru wasanaeth cynghori cenedlaethol gyda'r nod o gefnogi pawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad, a chanllawiau newydd i asiantaethau a sefydliadau sy'n gweithio gyda'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.
Mae gwelliannau allweddol i'r gwasanaeth hyd yma yn cynnwys pwyntiau cyswllt unigol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc a chyflwyno gwasanaeth ffôn 111 pwyso 2 yn genedlaethol ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys.
Bydd gwybodaeth gan Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSSS), sy'n casglu data yn uniongyrchol gan heddluoedd, yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â fframwaith profiad byw sy'n tynnu ar brofiadau'r rhai sydd wedi’u heffeithio'n uniongyrchol i helpu i lunio polisïau a gwasanaethau cymorth.
Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio wedi'i phenodi'n gynghorydd i Lywodraeth Cymru.
Mae tîm Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cenedlaethol hefyd wedi'i sefydlu o fewn Gweithrediaeth y GIG i gymell newidiadau ar draws Cymru.
Nodiadau i olygyddion
Anyone needing support with their mental health can ring the CALL Helpline on 0800 132 737 or Samaritans: 116 123.
For urgent support call the NHS on 111 and press 2.
If you’re affected by suicide, the National Advisory and Liaison Service Cymru offer free and confidential support to people in Wales: 08000 487742