English icon English

Gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd i gael eu gwneud ar yr A494 ger Clwyd Gate

Road safety improvements to be made on the A494 near Clwyd Gate

Mae cyllid wedi cael ei sicrhau i wneud cyfres o welliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd ar yr A494 ger Clwyd Gate.

Cafodd y buddsoddiad ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cynnwys gosod arwyddion rhybuddio newydd, marciau ffyrdd a physt i farcio peryglon ar gopa'r ffordd, i rybuddio gyrwyr am bobl sy'n cerdded, beicio a marchogaeth yn yr ardal. Bydd y gwaith i gyflawni'r gwelliannau hyn yn dechrau'r flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae diogelwch ar y ffyrdd yn flaenoriaeth. Rydyn ni wedi gwrando ar bobl leol ac yn cymryd camau i wella diogelwch ar y ffyrdd ar yr A494 ger  Clwyd Gate, gan wneud y ffordd yn fwy diogel i bobl sy'n gyrru, cerdded, beicio a marchogaeth fel ei gilydd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1bn mewn trwsio a gwella ffyrdd ledled Cymru ers 2021.