English icon English
Jeremy Miles (L) cropped

Gwelliannau i system gwynion GIG Cymru

Improvements to be made to NHS Wales complaints system

Bydd y broses gwyno y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn cael ei chryfhau'n sylweddol ar ôl i'r Senedd gymeradwyo rheoliadau newydd heddiw (dydd Mawrth 14 Hydref).

Bydd y newidiadau yn disodli'r system bresennol Gweithio i Wella gan gyflwyno dull newydd o'r enw Gwrando ar Bobl. Dyma'r diwygiad mwyaf i'r broses o ymdrin â chwynion ac ymchwilio i ddigwyddiadau yn y GIG yng Nghymru ers bron i 15 mlynedd.

Mae'r system newydd yn cyflwyno proses datrys cwynion dau gam. Mae'r cam cyntaf yn canolbwyntio ar ddatrys yn gynnar a gall yr ail gam gynnwys asesu atebolrwydd ac a ddylid cynnig hyd at £50,000 i wneud iawn.

Mae'r gwelliannau allweddol yn cynnwys:

  • Cynnig gorfodol o drafodaethau gwrando lle bydd cyrff y GIG yn ystyried profiad yr unigolion sy'n codi pryderon
  • Cyfathrebu clir a thosturiol trwy gydol y broses, gan esbonio terminoleg gyfreithiol neu feddygol gymhleth yn briodol
  • Cynnig eiriolaeth a chymorth cyfreithiol yn rhagweithiol i achwynwyr
  • Cynyddu'r trothwy iawndal i £50,000
  • Gwiriadau gorfodol i sicrhau bod pryderon wedi'u datrys o fewn cyfnod amser penodol

Mae'r diwygiadau wedi'u hategu gan bedair egwyddor graidd sy'n sicrhau bod pobl sy'n codi pryderon yn cael gwrandawiad ac yn cael eu trin â pharch, bod pryderon yn cael eu hymchwilio yn gymesur ac yn effeithiol, bod cyrff y GIG yn dysgu o gwynion i leihau’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto, a bod arweinwyr yn rhoi sicrwydd eu bod yn bodloni'r gofynion rheoleiddio.

Mae cynyddu'r trothwy iawndal i £50,000 yn golygu y bydd angen i lai o bobl droi at ymgyfreitha costus i hawlio iawndal. Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn arwain ar weithredu'r broses newydd, gyda goruchwyliaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Llais.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, ei fod yn cydnabod bod Gweithio i Wella wedi gadael gormod o bobl i lawr. Disgrifiodd enghreifftiau o “system rhy fiwrocrataidd a deddfol, sydd wedi ychwanegu at loes a galar pobl”.

Diolchodd  i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad a rhannu eu profiadau personol, gan ddweud: “trwy godi'ch llais, ry'ch chi wedi helpu i newid diwylliant o ran y ffordd mae cwynion y GIG yn cael eu trin, i greu system sy'n llawer mwy agored a chefnogol.”

“Mae'r GIG yn gweithio’n galed i sicrhau bod y gofal gorau posibl ar gael i bawb, ond ry'n ni’n gwybod bod pethau’n gallu mynd o’i le weithiau.

“Ry'n ni wedi gwrando ac ry'n ni wedi ymateb. Bydd y system newydd hon yn cryfhau system gwynion bresennol y GIG yn sylweddol, trwy sicrhau y gellir cyflwyno cwynion yn hawdd ac y byddant yn cael eu trin mewn modd tosturiol, effeithiol ac amserol.”