Gwelliannau mannau cul ar Gyffordd 19 yr A55 yn dechrau
A55 Junction 19 pinch point improvements begin
Bydd gwaith I wella cyffordd 19 yr A55, i’w wneud yn fwy diogel i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr, i ddechrau ddydd Mercher, 17 Mehefin.
Mae’r gyffordd, a elwir yn gylchfan y Black Cat, ar ran prysur o’r ffordd ble mae’r A470 yn cyfarfod yr A55.
Bydd y gwaith yn cynnwys lledu’r gyffordd, adeiladu croesfannau mwy diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gosod signalau traffig ar leoliadau pwysig ac uwchraddio y goleuadau ffordd presennol am oleuadau sy’n defnyddio ynni yn effeithiol.
Bydd y llwybrau I feicwyr a cherddwyr hefyd yn cysylltu gyda’r llwybr presennol ar yr A470 i annog teithio llesol yn yr ardal.
Bydd goleuadau traffig hefyd yn helpu i reoli’r tagfeydd ar y ffyrdd ymadael, lleihau hyd y ciwiau, ac arafu cyflymder y traffig i wella diogelwch ar y gylchfan.
Byddai’r gwaith hwn wedi’i wneud yn wreiddiol wedi seibiant yr haf. Ond mae’r ffaith bod lefelau traffig ar yr A55 bron hanner y lefel arferol oherwydd y pandemig coronafeirws, gan roi’r cyfle i gwblhau’r gwaith yn gynt na’r bwriad gyda llai o darfu ar y cyhoedd.
Bydd gweithwyr adeiladu yn dilyn rheolau pellter cymdeithasol drwy’r amser.
Meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae hwn yn gynllun pwysig ar gyffordd brysur iawn ble y mae dwy o’n prif ffyrdd yn cyfarfod. Bydd y cynllun yn annog cerdded a beicio drwy wneud y gyffordd yn fwy diogel. Bydd cyflymder y traffig hefyd yn is o ganlyniad I’r gwelliannau, gan helpu i leihau nifer y damweiniau ar y gyffordd.
“Dyma’r cyntaf o’n cynlluniau mannau cul i fynd yn eu blaenau a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bob math o drafnidiaeth unwaith y bydd wedi’i gwblhau.”
Mae cam cyntaf y gwaith i ddechrau ar 17 Mehefin a bydd yn parhau tan ddiwedd Medi, gan ddibynnu ar y tywydd, ond caiff pob ymdrech ei wneud I gwblhau’r gwaith yn gynt os yn bosibl.
Os bydd cyfyngiadau y coronafeirws yn cael eu llacio, a bod traffig yn cynyddu, bydd y contractwyr yn newid eu ffyrdd o weithio i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl. Mae’r gwaith sy’n debygol o achosi mwy o darfu wedi ei flaenoriaethu i ddigwydd yn ystod y cam cyntaf, tra bod lefelau traffig yn parhau i fod yn is na’r arfer.
Bydd y gwaith yn golygu culhau y lôn ar gyffordd 19 y gerbytffordd gylchredol a bydd un lôn yn cau ar yr A55 tua’r dwyrain a’r ffordd ymadael tua’r gorllewin yn ogystal â gosod ardaloedd ar wahân i reoli traffig wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen i gynnwys rhywfaint o waith gosod. Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod shifftiau estynedig yn ystod y dydd