English icon English
Jeremy Miles-46

Gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant mewn bwrdd iechyd yn y De

Improvements in children’s mental health services at South Wales health board

Mae gwelliannau gwirioneddol wedi'u gwneud i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n cael eu darparu i bobl sy'n byw yng Nghymoedd y De.

Mae'r newidiadau'n golygu y gall yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, ddod â'r trefniadau monitro a chymorth sydd wedi'u rhoi ar waith i wella'r gwasanaethau hyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ben.

Y bwrdd iechyd yw'r unig un sy'n cael ei symud yn ôl i drefniadau arferol ar gyfer CAMHS yng Nghymru.

Mae wedi gwneud gwelliannau hefyd i'w amseroedd aros a'i berfformiad ym maes canser, sy'n golygu bod lefel y cymorth a'r ymyrraeth y mae'n ei chael wedi gostwng o lefel pedwar i lefel tri.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn parhau i fod ar lefel tri ar gyfer cyllid a chynllunio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

“Rwy'n falch iawn o weld y gwelliannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac rwyf wedi penderfynu llacio lefel y cymorth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

“Mae fy mhenderfyniad heddiw yn dangos sut mae ein cefnogaeth yn cael effaith galonogol ar ansawdd y gofal a'r gwasanaethau y mae sefydliadau GIG Cymru yn eu darparu.

“Hoffwn ddiolch i'r holl staff ar draws y bwrdd iechyd sy'n gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth i fywydau plant y mae arnyn nhw angen cymorth iechyd meddwl o ansawdd uchel.”

Nodiadau i olygyddion

The oversight and escalation framework sets out how performance is reviewed, and risk is assessed across the NHS.

There are currently five levels of escalation.

  • Level 1 (routine arrangements) - organisation or service is not in an escalated status.
  • Level 2 (Area of concern) - this is not a formal level of escalation.
  • Level 3 (enhanced monitoring) - Welsh Government will closely monitor, challenge and review progress against the agreed criteria.
  • Level 4 (targeted Intervention) - Welsh Government will take co-ordinated action and direct intervention to support the NHS organisation to drive improvement.
  • Level 5 (special measures) - Welsh Ministers may intervene as set out in the NHS (Wales) Act 2006. This may include providing targeted support, suspending or removing powers and duties from individual or all members of the NHS organisation’s board.

To be considered for de-escalation, an organisation must demonstrate that the de-escalation and sustainability criteria have been consistently met. De-escalation will be to the next level on the intervention scale with reduced oversight and reporting at each stage of de-escalation.