Gwelliannau yn lefelau presenoldeb ysgolion cynradd Cymru
Improvements in Welsh primary school attendance
Mae lefelau presenoldeb ysgolion cynradd Cymru wedi gwella, yn ôl data newydd sy'n dangos gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n colli'r ysgol.
Mae'r data newydd yn dangos bod absenoldeb cyson - hynny yw, colli mwy na 10% o'r sesiynau ysgol gofynnol - ymhlith disgyblion oed cynradd wedi gostwng i 21.8% ym mlwyddyn ysgol 2024/2025 o'i gymharu â 24.7% yn 2023/2024. Ar gyfer y grŵp oedran hwn, mae nifer y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd hefyd wedi gostwng o 7.9% i 7.4% yn ystod yr un cyfnod amser.
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos gwelliannau yn nifer y disgyblion cynradd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n mynychu'r ysgol. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd ymhlith y garfan hon i 11.8% yn 2024/2025 o'i gymharu â 12.1% y flwyddyn ysgol flaenorol. Gwelwyd gostyngiad yng nghanran absenoldeb cyson disgyblion cynradd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim hefyd i 44.7% o'i gymharu â 46.9% yn 2023/2024.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae'n wych ein bod yn gwneud cynnydd wrth fynd i'r afael ag absenoldeb ysgol, ac mae'r gwelliant hwn yn adlewyrchu ein ffocws parhaus ar bresenoldeb a'r buddsoddiadau rydyn ni wedi'u gwneud. Ond rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon, ac mae codi lefelau presenoldeb mewn ysgolion yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.
"Mae amrywiol resymau dros absenoldeb dysgwyr. Mae cydberthynas effeithiol rhwng ysgolion a theuluoedd yn hanfodol, ac mae llawer o arferion da eisoes ar waith ledled Cymru. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal plant rhag mynychu'r ysgol yn rheolaidd.
"I gefnogi'r gwaith hwn, rydyn ni wedi darparu £7 miliwn eleni i helpu plant i ailymgysylltu â'r ysgol. Rydyn ni eisoes yn gweld canlyniadau'r buddsoddiad hwn, a dw i am ddiolch i holl staff ysgolion, awdurdodau lleol a theuluoedd am weithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn."
Yn gynharach eleni, dangosodd ystadegau a ryddhawyd ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd hefyd fod y cyfraddau presenoldeb wedi gwella, gan godi i 89.1% o 88.0%, ac absenoldeb cyffredinol wedi gostwng o 12.0% i 10.9% ym mlwyddyn academaidd 2024/25 o'i gymharu â'r un adeg yn 2023/2024.
Nodiadau i olygyddion
Notes
Attendance statistics for primary school aged pupils can be found here
Attendance statistics for secondary school aged pupils can be found here.
Our Universal Primary Free School Meal offer does not redefine the eligibility criteria for benefit-related free school meals. Just like the previous system before Universal Primary Free School Meals, parents/carers are asked to register for free school meals to access additional sources of support and for data purposes.
Data is for the 2024/2025 and 2023/2024 academic years.