English icon English

Gwelliant mawr yn amseroedd trosglwyddo cleifion ambiwlans

Big improvement in ambulance patient handover times

Mae nifer y bobl sy'n aros mwy nag awr i drosglwyddo o ambiwlans i adran achosion brys yng Nghymru wedi gostwng bron un rhan o bump.

Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn ymweld ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg lle mae gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud o ran torri amseroedd hir yn achos trosglwyddo cleifion ambiwlans.

Gostyngodd yr amser cyffredinol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn aros i drosglwyddo pobl i staff adran achosion brys yr ysbyty dros 87% ym mis Mehefin o'i gymharu â mis Mai ac fe gafodd bron tri chwarter y bobl eu trosglwyddo mewn 15 munud yn unig.

Mae perfformiad yn adran achosion brys Ysbyty Treforys yn Abertawe yn gwella hefyd – bu gostyngiad o 70% yn yr amser y mae'n ei gymryd i'r gwasanaeth ambiwlans drosglwyddo cleifion i'r safle ym mis Mehefin.

Mae tasglu cenedlaethol wedi'i sefydlu i leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlansys ledled Cymru, gan helpu i gyflymu'r broses o drosglwyddo pobl i adrannau brys a rhyddhau criwiau ambiwlans i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned.  

Ond er bod gwelliannau wedi bod ym mis Mehefin, mae gormod o amrywiadau ar draws Cymru o hyd.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y pwysau ar wasanaethau gofal brys yn dal yn uchel – ym mis Mehefin cofnodwyd y presenoldeb dyddiol uchaf ond dau erioed mewn cyfleusterau gofal brys. Ond yr amser cyfartalog o’r amser cyrraedd i'r broses frysbennu oedd 16 munud - yr amser byrraf ers mis Chwefror 2021.

Dywedodd Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Iechyd: “ Mae ffigurau heddiw yn dangos bod ein ffocws ar wella perfformiad trosglwyddo cleifion ambiwlans yn gweithio, gydag amseroedd trosglwyddo ym mis Mehefin ar eu hisaf ers mis Medi 2021.

“Gyda gwelliannau mewn gofal argyfwng yr un diwrnod a llif cleifion ar waith, mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn y rhan fwyaf o ardaloedd o Gymru.

“Mae staff ledled Cymru yn gweithio'n galed ddydd ar ôl dydd i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion ac rwyf am ddiolch iddynt am eu hymdrechion parhaus a'r gwelliannau rydyn ni'n eu gweld.

"Rydym wedi sefydlu tasglu cenedlaethol, o dan arweiniad clinigol yn ddiweddar i gefnogi'r ymdrechion hyn ac wedi bod yn glir gyda'r byrddau iechyd ynghylch ein disgwyliadau.

“Gyda newidiadau i'r ffordd y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn rheoli galwadau 999, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio i weld cynnydd pellach yn ein perfformiad o ran trosglwyddo cleifion ambiwlans.”

Cyflwynwyd newidiadau i'r ffordd y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymateb i'r galwadau 999 mwyaf difrifol ar 1 Gorffennaf.  Mae categori porffor newydd wedi'i greu i'r bobl hynny sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ac mae'r categori coch wedi'i gadw ar gyfer argyfyngau sy'n peryglu bywyd, gan gynnwys pobl sydd mewn perygl difrifol o ddioddef ataliad y galon neu anadlol, gan gynnwys salwch difrifol a thrawma.

Fe ddaw categori newydd sef "oren: sensitif o ran amser" ar gyfer pobl sydd â symptomau clir o strôc a chyflyrau difrifol eraill megis syndrom coronaidd acíwt/trawiad ar y galon, i rym cyn y gaeaf.

Bydd categorïau melyn a gwyrdd newydd ar gyfer pobl â symptomau a fyddai'n elwa o asesiad clinigol pellach a mynediad at ddewisiadau amgen cymunedol, cludiant wedi'i drefnu i'r ysbyty neu i gael eu rhyddhau dros y ffôn neu yn y fan a'r lle, yn cael eu cyflwyno hefyd.

Mae ffigurau perfformiad diweddaraf y GIG yn dangos bod yr amseroedd aros hiraf am driniaeth wedi cynyddu ym mis Mai, yn ôl y disgwyl.

Dechreuodd mwy na 1,900 o bobl driniaeth canser ac fe gafodd mwy na 14,200 o bobl y newyddion da nad oes ganddynt ganser, wrth i berfformiad wella yn erbyn y targed o 62 diwrnod ym mis Mai, gan gynyddu i 61.3%.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd: "Mae'n siomedig gweld yr amseroedd aros hiraf am driniaeth yn cynyddu ar ôl inni lwyddo i'w lleihau yn ystod y misoedd diwethaf, ond maen nhw'n 85% yn is na'r uchafbwynt.

“Ond rwy'n hyderus y byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol arall y mis nesaf - pan fyddwn yn cael y sefyllfa ynghylch diwedd chwarter un – yn seiliedig ar yr adborth rydw i wedi'i gael gan y byrddau iechyd ac y byddwn ar y trywydd iawn yn ein cynlluniau i ddileu amseroedd aros dwy flynedd.”