English icon English
Bathodyn Cymraeg

Gwersi Cymraeg am ddim i bawb rhwng 16 – 25 oed ac i’r holl staff addysgu

Free Welsh lessons available to all 16 – 25s and teaching staff

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed ac i bob ymarferydd addysg. 

O fis Medi ymlaen, bydd pobl ifanc 18-25 oed yn gallu cofrestru'n rhad ac am ddim ar gyrsiau gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau'n cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd mewn ystafelloedd dosbarth rhithwir, gan ddefnyddio Zoom neu Teams, gyda chyrsiau wyneb yn wyneb ar gael hefyd.

Bydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at gyrsiau wedi'u teilwra i'w gallu eu hunain yn y Gymraeg, o gyrsiau blasu a chyrsiau mynediad hyd at lefelau uwch a hyfedredd. Ni ofynnir i bobl ifanc 18 – 25 oed dalu wrth gofrestru.

Bydd adnodd e-ddysgu newydd hefyd yn cael ei dreialu ar gyfer pobl ifanc 16 – 18 oed sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol, coleg neu gynllun prentisiaeth, i wella eu sgiliau Cymraeg llafar. Bydd yr adnodd yn cael ei ddarparu gan Say Something in Welsh a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol o fis Medi ymlaen. Bydd yn ategu pecyn ehangach o hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, p'un a ydynt mewn addysg ai peidio.

Bydd pob athro, pennaeth a chynorthwyydd addysgu hefyd yn gallu cael gwersi Cymraeg am ddim, fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i gryfhau addysgu'r Gymraeg yn y Cwricwlwm newydd a chynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu addysgu yn Gymraeg.

Lansiodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gwrs blasu ar-lein llwyddiannus i athrawon ac arweinwyr ym mis Chwefror 2020, gyda thua 2,800 o bobl yn cofrestru ar ei gyfer. Bydd y cyrsiau eraill sydd ar gael yn cynnwys y Cynllun Sabothol ar gyfer ymarferwyr ysgolion, sydd wedi hen ennill ei blwyf. Bydd porth digidol newydd hefyd yn cael ei ddatblygu erbyn yr haf i gefnogi'r gweithlu addysg i ddewis y cwrs sy'n gweddu orau i'w hanghenion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu dysgu Cymraeg am ddim i bawb rhwng16 i 25 oed yn ei Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Rydw i eisiau i bawb gael y cyfle i ddysgu Cymraeg. Nid pawb sy'n cael cyfle i ddysgu Cymraeg yn blentyn ifanc ac mae llawer ohonom yn penderfynu ar ôl i ni adael yr ysgol yr hoffem siarad Cymraeg yn amlach. Mae'n bwysig ein bod yn cynyddu'r cyfleoedd i ddysgu ein hiaith fel y gall mwy o bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. 

"Efallai y bydd llawer o oedolion ifanc yn penderfynu eu bod am ddechrau dysgu Cymraeg, adeiladu ar eu gallu presennol neu ddim ond cynyddu eu hyder fel y gallant ddefnyddio mwy ar y Gymraeg, boed yn y gweithle, gyda ffrindiau neu wrth fyw eu bywydau o ddydd i ddydd yn eu cymuned leol.

"Rydym hefyd yn dymuno cynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg. O ganlyniad, mae angen cynyddol am fwy o addysgwyr Cymraeg eu hiaith, felly rydw i am ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt gael mynediad at gyrsiau Cymraeg am ddim.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Dyma gam arall tuag at roi cyfle i bawb siarad Cymraeg a'n helpu i gyrraedd ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell AS:

“Dylai pawb yn ein gwlad fod â’r hawl i ddysgu, i weithio ac i fyw eu bywydau yn Gymraeg – mae’r iaith yn perthyn inni gyd. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam arall ymlaen wrth inni gynllunio ar gyfer miliwn, a mwy, o siaradwyr Cymraeg.

“Drwy gynnig gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i bob person rhwng 16 a 25 oed, rydyn ni’n dileu rhwystr arall rhag cael mynediad at yr iaith, a’r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.

“Mae darparu mynediad rhwydd at wersi yn rhad ac am ddim yn gyfraniad bach ond hanfodol yn ein hymdrechion i ehangu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb. Rwy’n gobeithio y bydd llawer iawn o bobl yn elwa ar y polisi newydd hwn a luniwyd yn yr ysbryd cydweithredol Cymreig. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth.”