English icon English

Gwirfoddolwyr – ffyrdd o helpu, diolch, a byddwch yn ofalus

Volunteers – how to help, thank you, and stay safe

Heddiw, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt ddiolch i’r bobl wych a charedig o bob cefndir ac ym mhob cwr o Gymru sy’n gwirfoddoli i helpu cymunedau i wynebu’r coronavfeirws gyda’i gilydd.

“Mae gan Gymru draddodiad cadarn o weld pobl yn helpu ei gilydd, ac rydyn ni wedi gweld hyn ar waith dros yr ychydig wythnosau diwethaf. O godi’r ffôn i siopa dros bobl sy’n hunanynysu, neu helpu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae llawer o bethau y gellir eu gwneud.

“Rwy’ am ddweud diolch – rydych chi’n anhygoel.”

“Os ydych chi am wirfoddoli, mae’n bwysig gofalu eich bod yn ddiogel eich hun. Dilynwch y cyngor isod, a byddwch yn ofalus.” 

  1. Er mwyn gwirfoddoli rhaid i chi fod yn iach, heb unrhyw symptomau fel peswch neu dymheredd uchel, a rhaid i hynny hefyd fod yn wir ar gyfer pawb ar eich aelwyd. Ni ddylid rhoi unrhyw un dan bwysau i wirfoddoli, ac ni ddylech wirfoddoli os ydych dros 70 oed, yn feichiog, neu os oes gennych gyflwr iechyd eisoes.
  2. Gallwch helpu pobl o’ch cartref eich hun, dros y ffôn neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gall ‘helo’ neu sgwrs sydyn dros y ffôn fod yn werthfawr iawn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ddiogel ar y cyfryngau cymdeithasol.
  3. Gallwch gydweithio gyda’ch cymdogion i helpu pobl agored i niwed ar eich stryd neu yn eich ardal leol, neu sefydlu grŵp cymunedol newydd sy’n ymateb i Covid-19. Gwnewch yn siŵr bod systemau a phrosesau yn eu lle i’ch diogelu rhag camdriniaeth a niwed.
  4. Gallwch ymuno â sefydliad gwirfoddoli lleol – edrychwch am gyfleoedd ar Gwirfoddoli Cymru.
  5. Mae canllawiau gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ‘Ymateb cymunedol i COVID-19 – galluogi ymarfer diogel ac effeithiol’ - gweler https://wcva.cymru/cy/hafan/.

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: “Rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n cynnig rhoi eu hamser. Gan ystyried yr amgylchiadau anodd sy’n wynebu pob un ohonom ni, dylid cymeradwyo hyn, ac mae’r gydnabyddiaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn.”

Ceir rhagor o gymorth a chyngor ar http://llyw.cymru/iachadiogel  

Nodiadau i olygyddion

For case studies, please contact Elen Notley, Wales Council for Voluntary Action - enotley@wcva.cymru 

Tel: 029 2043 1728 or 0771 371 6216