Gwobrau Dewi Sant 2020 yn cydnabod ‘Arwyr’
‘Heroes’ recognised in St David Awards 2020
**Datganiad i’r Wasg: embargo tan 20:00pm 17 Mehefin**
Mae enwau enillwyr Gwobrau Dewi Sant cenedlaethol Cymru 2020 wedi cael eu cyhoeddi ar-lein (heno) gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Y bwriad oedd cyflwyno gwobrau eleni ym mis Mawrth ond bu’n rhaid gohirio hynny oherwydd pandemig y coronafeirws.
Yn ei neges at holl enillwyr Gwobrau Dewi Sant, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio y bydd y “bobl gyffredin arbennig iawn” sydd wedi ennill gwobr yn cael rhyw gysur o’r gydnabyddiaeth.
Categorïau’r gwobrau yw: Dewrder, Dyngarwch, Ysbryd y Gymuned, Person Ifanc, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Busnes, Diwylliant, Chwaraeon a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Enillydd y wobr arbennig eleni yw’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas a’i ymgyrch yn erbyn y stigma sy’n gysylltiedig â rhywioldeb a HIV.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Yr hyn sy’ mor gyfareddol am y cyfan yw bod pob un sy wedi’i enwebu yn credu nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth i glochdar amdano. Wel, maen nhw. Maen nhw’n bobl gyffredin sy’n gwneud pethau arbennig iawn ac wedi newid bywydau er gwell. Mae’n anrhydedd imi gael eu cydnabod trwy Wobrau Dewi Sant.
“Rwyf wedi dewis Gareth Thomas ar gyfer fy Ngwobr Arbennig am ei fod yn gymaint o fodel rôl i bobl o bob oed, yn enwedig i bobl ifanc. Mae e wedi bod yn agored ac yn onest am ei rywioldeb a’i HIV ac mae ei stori wedi ysbrydoli. Bydd ei agwedd yn chwalu rhwystrau a stereoteipiau, yn gwella dealltwriaeth ac yn helpu pobl eraill mewn sefyllfa debyg i beidio byth â theimlo cywilydd pwy ydyn nhw.”
Enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2020 yw:
Joel Snarr a Daniel Nicholson – Y Wobr am Ddewrder
Ym mis Mai 2019, roedd Joel Snarr a Daniel Nicholson yn gyrru ar yr A40 pan wnaeth awyren fach fwrw'r llinellau pŵer uwchben a tharo’r ffordd o'u blaenau.
Gwnaeth y ddau – nad oedden nhw'n adnabod ei gilydd ar y pryd ac a oedd yn gyrru ceir gwahanol – neidio o'u ceir a rhedeg tuag at yr awyren, a oedd eisoes ar dân. Roedd y peilot, a'i nith a’i nai yn eu harddegau, yn sownd tu fewn ac yn methu agor drysau'r awyren. Gwelodd Daniel grac yn y ffenestr gefn a llwyddo i'w thorri i achub y ddau ifanc wrth i Joel lusgo'r peilot i ddiogelwch.
O fewn eiliadau roedd yr awyren yn wenfflam – ond roedd y tri wedi’u hachub yn ddianaf. Roedd Joel yn dioddef ar y pryd o PTSD yn sgil ei brofiadau fel cyn arbenigwr difa bomiau ond ymunodd yn reddfol â Daniel a pheryglu’i fywyd trwy redeg at fflamau’r awyren.
Rachel Williams – Y Wobr Ddyngarol
Mae Rachel Williams yn ymgyrchydd diflino yn erbyn cam-drin domestig. Cafodd hithau ei cham-drin ac ni ddaeth ei 18 blynedd o ddioddefaint i ben tan y gwnaeth ei cham-driniwr ei saethu yn 2011 cyn lladd ei hun. Ond trallod pethau oedd i’w mab 16 oed, chwe wythnos yn ddiweddarach, gymryd ei fywyd yntau ar ôl methu ag ymdopi ag erchylltra’r trawma.
Mae Rachel wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o fynd â’r bil cam-drin domestig drwy Senedd y DU, ac ym mis Medi 2019 cynhaliodd y gynhadledd gyntaf o dan arweiniad goroeswyr cam-drin domestig yn ne Cymru: Stand Up to Domestic Abuse (#sutda), lle daeth llawer o bobl sydd wedi goroesi cam-drin a gweithwyr proffesiynol ynghyd. Mae ffrindiau Rachel yn dweud ei bod yn ddewr, yn garedig ac yn frwd, ac mae hi wedi rhoi ei bywyd i helpu menywod ledled y wlad.
Wasem Said – Gwobr Ysbryd y Gymuned
Wrth y llyw yng nghlwb bocsio amatur Tiger Bay y mae Wasem Said o Butetown. O dan ei arweiniad, mae nifer yr aelodau wedi cynyddu i fwy na 300 o blant a phobl ifanc, ac mae Wasem wedi helpu i achub rhai ohonynt rhag bywyd o droseddu a chyffuriau. Dyna oedd byd Wasem hefyd pan oedd yn ifanc cyn iddo weddnewid ei fywyd. Mae Wasem yn credu bod bocsio’n gallu cryfhau cymuned gan fod ei aelodau trwy’r gamp yn dysgu disgyblaeth, byw’n iach, parch a hunan-barch.
Tyler Ford – Gwobr y Person Ifanc
Nid crwt 12 oed cyffredin mo Tyler Ford o Abertawe. Mae ganddo naw o Bencampwriaethau Cicfocsio’r Byd, tair medal aur o Gemau Crefftau Ymladd y Byd a Tyler oedd yr ifanca’ erioed i gael ei gyflwyno i Oriel Anfarwolion y Crefftau Ymladd pan oedd yn wyth mlwydd oed. Hefyd Tyler yw Pencampwr Bocsio Cenedlaethol Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru a Phencampwr Crefftau Ymladd Cymysg Prydain ac mae wedi ennill dros 200 o fedalau aur mewn cystadlaethau rhyngwladol.
Mae Tyler yn llwyddo i drefnu ei gicfocsio a’i waith ysgol gyda’i waith elusennol. Mae’n llysgennad dros yr ymgyrchoedd gwrthfwlio Bullies Out a Bully Beware, ac yn gwirfoddoli i helpu plant eraill, ysbytai a’r ganolfan RSPCA. Rhoddodd ei fedal aur o Bencampwriaeth y Byd i un o’i ffans ifanc oedd yn glaf mewn ysbyty a chodi arian am gadair olwyn arbennig er mwyn iddo allu gadael ei wely.
Yr Athro David Worsley – Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Yn wreiddiol o Sir Benfro, mae'r Athro Worsley yn Is-Lywydd Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Athro Tata Steel. Yn ystod 30 mlynedd ei yrfa mae'r Athro Worsley wedi sicrhau dros £140 miliwn o gyllid ar gyfer ymchwil ac ar hyn o bryd ef sydd â’r portffolio mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Athro Worsley yn dod â phrifysgolion yn y DU a phob cwr o’r byd ynghyd i gael hyd i atebion ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ynni’r haul.
Mae ei lwyddiannau arloesol ym maes adeiladau actif sy’n cyfuno ynni’r haul a thechnolegau storio gwres, pŵer a thrafnidiaeth, wedi arwain ato’n ennill llawer o wobrau peirianneg a chynaliadwyedd.
Moneypenny – Y Wobr Fusnes
Cafodd Moneypenny ei sefydlu ugain mlynedd yn ôl gan y brawd a’r chwaer Ed Reeves a Rachel Clacher CBE. Heddiw, maen nhw’n cyflogi 650 o bobl yn eu prif swyddfa yn Wrecsam, ac mae ganddynt swyddfeydd yn Llundain a Charleston, UDA. Mae’r busnes yn werth rhyw £100m ac yn tyfu ryw 20% y flwyddyn.
Mae’r cwmni’n buddsoddi’n drwm yn ei staff ac wedi bod ar restr y Sunday Times o’r Busnesau Gorau i Weithio Iddyn Nhw am bron 10 mlynedd.
Yn 2015 sefydlodd y cwmni fudiad hyfforddi elusennol o’r enw We Mind The Gap i hyfforddi a mentora pobl ifanc yn Wrecsam. Mae'r rhaglen bellach wedi cael ei hestyn i Sir y Fflint, Manceinion a Lerpwl.
Russell T Davies – Y Wobr Diwylliant
Russell T-Davies o Abertawe yw un o ysgrifenwyr mwyaf ei genhedlaeth ym Mhrydain ar gyfer y teledu. Yn sgil cyfresi arloesol fel Queer As Folk, Bob and Rose a The Second Coming, mae Russell wedi ennill gwobrau lu a phan atgyfododd y gyfres glasurol Doctor Who, a chreu Torchwood, cipiodd galonnau ffans o bob cwr o’r byd. Ers hynny, mae wedi creu’r drioleg Cucumber, Banana and Tofu, A Very English Scandal, Years and Years ar gyfer BBC One/HBO ac y mae ar hyn o bryd yn ffilmio’r ddrama pum rhan Boys ar gyfer Channel 4. Mae yna ormod o wobrau BAFTA a Rose d’Or i’w henwi ond yn 2015, derbyniodd Russell Wobr Urdd Awduron Prydain Fawr am ei Gyfraniad Eithriadol at Ysgrifennu
Alun Wyn Jones – Y Wobr Chwaraeon
Arweiniodd Alun Wyn Jones dîm rygbi Cymru i ennill Camp Lawn y Chwe Gwlad ac i’r rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd. Gyda 134 o gapiau, does yr un Cymro wedi ennill mwy ac mae’n un o’r unig saith chwaraewr sydd wedi trechu De Affrica, Awstralia a Seland Newydd wrth deithio’r gwledydd hynny gyda’r Llewod.
Mae Gwobrau Dewi Sant 2020 ar gael ichi eu gwylio yn: https://llyw.cymru/gwobrau-dewi-sant
Caiff rhaglen arbennig am Wobrau Dewi Sant ei darlledu ar ITV Cymru am 10.45pm nos Iau, 16 Gorffennaf.
Rydym yn derbyn enwebiadau ar gyfer gwobrau blwyddyn nesaf. Am ragor o wybodaeth, ewch i : https://llyw.cymru/gwobrau-dewi-sant