Gwreiddiau cryf yn rhoi rhagor o dwf i'r Goedwig Genedlaethol
Strong roots give further growth for National Forest
Heddiw, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi bod 18 safle arall wedi cael statws Coedwig Genedlaethol Cymru drwy rownd ddiweddaraf y Cynllun Statws.
Mae rhaglen y Goedwig Genedlaethol yn ymrwymiad i greu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru. Bydd yn darparu ecosystemau rhyng-gysylltiedig ac yn creu gwaddol cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cyhoeddi rhagor o dwf i Goedwig Genedlaethol Cymru yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, yn y rownd fwyaf o geisiadau rydym wedi'u cael hyd yma. Mae hyn yn golygu bod gennym bellach 55 o Safleoedd y Cynllun Statws fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
"Mae ehangu'r Goedwig Genedlaethol yn gam allweddol tuag at greu, adfer a chysylltu cynefinoedd gwerthfawr - lle mae ecosystemau coedwigoedd cadarn yn caniatáu i fywyd gwyllt ffynnu. Mae rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn ganolog i'n treftadaeth naturiol a diwylliannol, gan alluogi cymunedau i gysylltu â natur a phrofi ei manteision."
"Ein huchelgais yw cael mwy o safleoedd ledled Cymru, y gall pawb eu mwynhau."
Mae dau safle o Barc Cenedlaethol Eryri wedi llwyddo i ymuno â'r rhwydwaith - Coed Bryn Berthynau a Choed Hafod.
Meddai Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae’n anrhydedd bod dwy goedlan ym mherchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn statws Coedwig Genedlaethol i Gymru. Mae’r coedlannau hyn yn adnoddau hamdden gwerthfawr i gymunedau lleol ac ymwelwyr i dreulio amser yng nghanol natur gan elwa o’r buddion o wneud hynny i iechyd a llesiant.”
Wrth ymuno â'r Goedwig Genedlaethol, mae safleoedd coetir yn dod yn rhan o rwydwaith sy'n cefnogi safleoedd ac yn helpu i rannu gwybodaeth ac arferion da.
Mae'r safleoedd newydd hefyd yn cael Arwyddion Coedwig Cenedlaethol a wnaed gan Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful o bren Cymreig a gafodd ei dorri a'i brosesu yng Nghymru.
Nodiadau i olygyddion
Coed Bryn Brethynnau
Saif Coed Bryn Brethynau ar lethrau sy'n wynebu'r de-orllewin yn bennaf yn nyffryn Llugwy. Coetir derw mes digoes sy'n nodweddiadol o arfordir gorllewinol Prydain ydyw yn bennaf, yn gymysg ag amrywiaeth o goed brodorol lled-naturiol. Mae’r goedlan yn cael defnydd sylweddol gan drigolion lleol sy’n mwynhau crwydro ei rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a goddefol. Ceir hefyd mynediad i Goedwig Gwydir a’r Llwybr Llechi trwy’r goedlan.
Coed Hafod
Coetir hynafol, lled-naturiol ar lethrau dwyreiniol dyffryn Conwy ger Llanrwst yw Coed Hafod. Derwen ddigoes sy’n meddiannu’r safle yn bennaf, yn gymysg ag amrywiaeth o goed brodorol lled-naturiol eraill. Caniateir mynediad ar hyd rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a goddefol sy’n cychwyn ger cilfan ar yr A470.