Gwres ac ynni o ffynonellau ynni glân i bob cartref newydd yng Nghymru o 2025 ymlaen
All new homes in Wales to be heated and powered from clean energy sources from 2025
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynigion newydd uchelgeisiol a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd yng Nghymru gael gwres ac ynni o ffynonellau ynni glân o 2025 ymlaen. Byddai’r cartrefi hyn yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn rhatach i'w cynnal.
Mae cynigion yr ymgynghoriad, a gyflwynwyd gan Julie James, y Gweinidog Tai, yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd y gwnaeth ei ddatgan y llynedd.
Yn ddiweddarach eleni, bydd y Gweinidogion yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer mabwysiadu targed i sicrhau gostyngiad o 95% mewn nwyon tŷ gwydr, gyda’r nod o fod yn ddi-garbon yn y dyfodol.
Mae tai yn cyfrannu'n sylweddol at newid yn yr hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae tai newydd a thai sydd eisoes wedi eu hadeiladu yn cyfrif am 9% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.
Os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau o ran yr hinsawdd, bydd rhaid i adeiladau weithredu bron yn ddi-garbon erbyn 2050. I wneud hyn, bydd rhaid sicrhau newid sylweddol yn y ffordd y bydd adeiladau yn cael gwres ac ynni yn y dyfodol. Bydd rhaid defnyddio llawer llai o ynni mewn adeiladau, a bydd rhaid i weddill y galw am ynni gael ei ddarparu drwy ffynonellau carbon isel ac adnewyddadwy.
I fynd i'r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno safonau newydd llym ar gartrefi newydd, a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn raddol dros y pum mlynedd nesaf.
Dyma rai o'r cynigion:
- Gwella effeithlonrwydd ynni o 2020 ymlaen gan arwain at ostyngiad o 37% yn CO2 anheddau newydd, o’i gymharu â'r safonau presennol, gan arbed £180 y flwyddyn ar filiau ynni i berchnogion tai (ar sail tai pâr). Hefyd, bydd rhaid i bob cartref newydd gael ei ddiogelu at y dyfodol, i'w gwneud yn haws ôl-osod systemau gwresogi carbon isel;
- Cael gwared ar danwyddau ffosil carbon uchel a symud at ffyrdd glanach o wresogi ein cartrefi drwy gyflwyno cenhedlaeth ynni a gwres carbon isel, fel ffynonellau ynni adnewyddadwy (paneli ffotofoltäig), pympiau gwres neu rwydweithiau gwresogi ardal, sy'n golygu bod llawer o adeiladau yn cael gwres a dŵr poeth o ffynhonnell wres ganolog;
- Gwella effeithlonrwydd ynni drwy gyflwyno mesurau sy'n cyfyngu ar y gwres sy'n cael ei golli a lleihau'r galw am wres, fel ffenestri gwydr triphlyg a ffabrigau o well ansawdd ar gyfer waliau, toeon, lloriau a ffenestri;
- Gwella ansawdd aer drwy sicrhau bod aer yn cyrraedd ac yn gadael man neu fannau mewn adeilad gan ddarparu ansawdd aer da. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan bobl well llesiant corfforol hefyd.
Pan fydd y safonau adeiladu newydd yn cael eu rhoi ar waith yn llwyr yn 2025, dylai cartrefi gynhyrchu 75-80% yn llai o allyriadau CO2 na'r adeiladau sy'n cael eu hadeiladu yn unol â'r gofynion presennol.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai:
"Mae tai newydd a thai sydd eisoes wedi eu hadeiladu yn gyfrifol am tua phumed o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig. Os ydym am gyrraedd ein targed uchelgeisiol, sef sicrhau gostyngiad o 95% yn ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, rhaid inni weithredu nawr i sicrhau newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn cael gwres ac ynni yn ein cartrefi.
"Bydd y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu heddiw yn bodoli yn 2050. Rhaid inni, felly, sicrhau bod y safonau yr ydym yn eu gosod ar gyfer y tai hyn yn ein tywys ar y trywydd cywir. Mae hyn yn cynnwys gwella effeithlonrwydd ynni a symud at ffyrdd glanach o wresogi ein cartrefi.
"Mae'r ymgynghoriad arfaethedig, ar gyfer rhoi'r safonau ar waith dros y pum mlynedd nesaf, yn cyfrannu mewn ffordd gadarn ac ystyrlon at leihau effaith ynni a charbon cartrefi newydd. Ar yr un pryd, mae’n cydnabod bod rhaid cydbwyso ein huchelgais â'r dymuniad i gael safonau costeffeithiol, fforddiadwy ac ymarferol.
"Nid yn unig y bydd y mesurau hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond byddant hefyd yn helpu i sicrhau costau ynni isel i aelwydydd heddiw ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu pobl â chostau byw, dim ots beth yw eu cefndir na'u hamgylchiadau."
Mae'r ymgynghoriad ar y cynigion newydd yn cau ar 12 Mawrth 2020.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar wahân ar safonau pan fydd gwaith adeiladu yn cael ei wneud ar anheddau sydd wedi eu hadeiladu eisoes, ac adeiladau annomestig newydd a rhai sydd wedi eu hadeiladu eisoes, gyda'r bwriad o godi'r safonau.