English icon English
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates

Llywodraeth Cymru yn herio am syniadau arloesol mewn ymateb i bandemig coronafeirws

Welsh Government challenge for innovative ideas in response to coronavirus pandemic

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ar gael i gefnogi busnesau sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu cymunedau a'r sector cyhoeddus i ymaddasu i effaith barhaus pandemig y coronafeirws.

Bydd Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI), a all gynnig hyd at £50,000 i brosiectau addawol sy'n gallu dechrau ym mis Ionawr 2021 ac eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, hefyd yn bwysig ar gyfer cynlluniau a all gefnogi'r sector cyhoeddus ar ôl cyfnod Pontio'r UE.

Bydd y ffocws ar greu bywydau gwell yn nes at y cartref, drwy gyflawni tri amcan allweddol sy'n cefnogi Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr Economi.

Y rhain yw:

  • Ailgodi’n Wyrdd – galluogi busnesau a chymunedau i addasu i'r heriau parhaus a ddaw yn sgil COVID-19, gan ganolbwyntio ar Gymru iachach, lanach a mwy cynaliadwy. Rydym yn chwilio am atebion sy'n galluogi pobl i barhau i weithio'n agosach i'r cartref, gan ystyried hygyrchedd a diogelwch wrth gynnal ymdeimlad o gymuned a chysylltiad.
  • Creu cynaliadwyedd a diogelwch mewn cadwyni cyflenwi – cefnogi cadwyni cyflenwi busnes sy'n seiliedig ar leoedd ac sy'n cael eu harwain gan anghenion i sicrhau swyddi ar gyfer y dyfodol ac i ddiogelu rhag tarfu pellach ar y gadwyn gyflenwi, fel bod gan gymunedau fynediad at ffynonellau bwyd iach.
  • Cefnogi lles meddyliol a chorfforol i bob cenhedlaeth – datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd i fynd i'r afael ag iechyd meddwl, gwella mynediad at ofal, a chefnogi gwydnwch cymunedau drwy'r pandemig a thu hwnt.

Gallai atebion gynnwys ffyrdd o ddefnyddio technoleg ddigidol a smart i gefnogi lles meddyliol pobl mewn cymunedau; lleihau effaith allyriadau ar iechyd; mynd i'r afael ag effeithiau tlodi bwyd; neu leihau diweithdra a'r angen i gymudo.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Y pandemig coronafeirws yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf y mae'r wlad hon wedi'i wynebu erioed. Mae arnon ni angen pobl sydd ag arbenigedd, entrepreneuriaeth a meddwl arloesol i weithio gyda ni a helpu i ddarparu atebion cynaliadwy i'r heriau y mae'n eu cynnig i les hirdymor ein cymunedau a'n heconomi.

"Rwy'n hynod falch o ddyfeisgarwch ac ymdeimlad  o gymuned mae Cymru wedi dangos wrth ddelio ag effeithiau coronafeirws, ond mae llawer mwy i'w wneud wrth inni barhau i addasu i'r tirlun sy'n newid yn barhaus yr ydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddo.

"Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach yn darparu cyllid pwysig i gwmnïau gysylltu â'r sector cyhoeddus a darparu atebion pwysig i heriau penodol. Rwy'n annog y rhai sydd â diddordeb i gymryd rhan."

Dywedodd Lynda Jones, rheolwr Canolfan Ragoriaeth SBRI: "Mae COVID 19 wedi effeithio ar bob un ohonon ni, ac ar gyfer yr her hon rydyn ni’n chwilio am ddatblygiadau arloesol a fydd yn helpu i gefnogi iechyd a lles hirdymor wrth gefnogi cymunedau a'r economi ar yr un pryd.

"Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle unigryw i gydweithio a gweithio'n agos gyda thîm o arbenigwyr o'r sectorau perthnasol i helpu i ddatblygu eu hatebion."

Mae gan Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) gyfanswm o £250,000 i gynnig i brosiectau llwyddiannus.

Mae gan fusnesau tan 12pm ar 27 Tachwedd 2020 i gyflwyno eu syniadau.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: SBRI. COE@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth ac i gyflwyno prosiect i'w ystyried, ewch i: https://sbri.simplydo.co.uk/challenges/5f969f3c85ab77a35e18d689