Her Llywodraeth Cymru i fusnesau yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws
Welsh Government challenge to businesses in fight against coronavirus
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i fusnesau helpu i ddatblygu atebion diheintio cyflym ar gyfer cerbydau brys fel rhan o’r ymateb i bandemig y coronafeirws.
Ar hyn o bryd gall gymryd hyd at 45 o funudau i lanhau ambiwlansys ar ôl iddynt gludo cleifion yr amheuir bod y coronafeirws arnynt.
Mae busnesau yn cael eu hannog i gydweithio â GIG Cymru, mewn partneriaeth â’r Labordy Gwyddor a Thechnoleg Amddiffyn a’r Sbardunwr Amddiffyn a Diogelwch (DASA) er mwyn datblygu dulliau newydd o gyflymu’r broses o lanhau ambiwlansys a cherbydau eraill.
Bydd y Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn annog busnesau i gydweithio â GIG Cymru er mwyn datblygu atebion blaengar. Caiff yr holl gostau datblygu eu cyllido.
Disgwylir i unrhyw atebion newydd fod yn addas i’w defnyddio ar raddfa ehangach na dim ond at ddefnydd y GIG – byddai modd eu defnyddio o bosibl ar fysiau, trenau, gwasanaethau eraill golau glas ac mewn ysbytai.
Caiff yr her ei rheoli gan Ganolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach Cymru, sydd wedi’i lleoli o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, DASA ac Innovate UK.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Pandemig y coronafeirws yw’r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf y mae’r wlad hon yn ei wynebu. Rydym yn gweithio’n ddiflino i geisio arafu lledaeniad y feirws ond mae angen i bobl sydd ag arbenigedd, sgiliau entrepreneuriaeth a syniadau blaengar gydweithio â ni er mwyn gallu ymateb i’r argyfwng.”
“Rydym yn galw ar y gymuned fusnes i gyfrannu, gan gynnig atebion blaengar a phwysig a all ein helpu i reoli lledaeniad y feirws.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Rydym wedi gweld enghreifftiau o brifysgolion a busnesau yng Nghymru’n cydweithio dros y dyddiau diwethaf er mwyn ceisio canfod atebion i’r her bresennol. Dyma enghraifft arall o’r modd y gall annog sectorau i gydweithio ein helpu i ymateb i bandemig y coronafeirws.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi lansio Cymorth i Brosiectau Arloesi ar gyfer Ymladd COVID-19 ar gyfer busnesau sydd â syniadau neu gynhyrchion eraill a allai helpu i ymladd y coronafeirws. Byd angen i fusnesau gyflwyno eu syniadau erbyn 1 Ebrill.
Gallwch gyflwyno cais yma: https://www.gov.uk/government/news/covid-19-call-for-rapid-sanitising-technology-for-ambulances
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at SBRI.COE@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth i Brosiectau Arloesi ar gyfer Ymladd COVID-19 ewch i: https://businesswales.gov.wales/expertisewales/cy/cymorth-i-brosiectau-arloesi-ar-gyfer-ymladd-covid-19
Gall busnesau hefyd ffonio 03000 250 243 neu anfon e-bost at SMARTCymru@gov.wales