English icon English
Plant - celf a chrefft

Hwb ariannol o £1.5m ar gyfer 25 o brosiectau i fynd i'r afael â thlodi plant

£1.5m funding boost for 25 projects to tackle child poverty across Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £1.5m i 25 o sefydliadau sy'n gweithio gyda theuluoedd mewn tlodi ar draws Cymru. Bydd y prosiectau hyn yn gwella sut mae gwasanaethau’n gweithio gyda'i gilydd, gan ganolbwyntio ar atebion ymarferol i helpu i godi plant allan o dlodi a chreu gwell cyfleoedd ar gyfer eu dyfodol.

Bydd y cyllid, o'r Grant Arloesi Tlodi Plant a Chefnogi Cymunedau, yn cysylltu gwasanaethau yn well fel y gall teuluoedd ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt yn haws.

Bydd Gweithredu Cymunedol Abergele yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi eu heithrio o gyfleoedd. Mae eu rhaglen yn cynnig cymorth sgiliau gwaith a datblygiad personol, gan roi cyfle i'r bobl ifanc hyn adeiladu dyfodol gwell.

Ym Mhowys, bydd prosiect yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â heriau tlodi gwledig a datblygu atebion ymarferol wedi'u teilwra i'r cymunedau.

Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig gweithdai creadigol am ddim i bobl ifanc yn Nhorfaen a Blaenau Gwent.

Dywedodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson: "Mae gan bob person ifanc yng Nghymru yr hawl i ffynnu drwy gyfleoedd diwylliannol ysbrydoledig, sy’n rhoi hwb i'w lles, eu haddysg a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd y grant hwn gan Lywodraeth Cymru yn dod â phartneriaid lleol a chenedlaethol at ei gilydd i gynnig profiadau creadigol i bobl ifanc yn Nhorfaen a Blaenau Gwent - ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o dlodi plant a'r mynediad isaf i'r celfyddydau yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gwybod bod y celfyddydau'n gallu newid bywydau. Gall sbarduno creadigrwydd, meithrin hyder, gwella lles, ac agor cyfleoedd go iawn. Mae'r prosiect hwn yn cefnogi amcanion Strategaeth Tlodi Plant Cymru a bydd yn helpu i greu newid parhaol i bobl ifanc yn y cymunedau hyn."

Rhwng 2022 a 2026, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £7bn mewn ymyriadau sy'n lleihau costau a gwneud y mwyaf o incwm teuluoedd a chadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru.

Mae'r cyllid grant hwn yn rhan o ymdrechion parhaus y Llywodraeth i helpu aelwydydd sy'n wynebu tlodi ledled Cymru yn 2025/2026.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd, ac mae mynd i'r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwalu'r rhwystrau y mae tlodi yn eu creu ac ehangu cyfleoedd i'n plant.

"Trwy fuddsoddi'n uniongyrchol mewn sefydliadau sy'n cefnogi teuluoedd mewn tlodi ledled Cymru, rydyn ni’n sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i atal tlodi a rhoi cefnogaeth ystyrlon i'r rhai sy'n wynebu'r heriau anoddaf."

Nodiadau i olygyddion

Dyfarnwyd cyllid i'r sefydliadau arweiniol canlynol o dan y cynllun grant yn 2025-2026: 

  • Afan Arts - Nod y prosiect yw gwella hunan-barch, meithrin dyheadau a datblygu sgiliau digidol ymhlith pobl ifanc. Mae'r prosiect yn grymuso unigolion â chyfleoedd dylunio graffeg, podledu, gwneud ffilmiau a chyfathrebu, gan wella hyder a chyflogadwyedd, gyda'r nod yn y pen draw o godi pobl ifanc allan o dlodi, a chreu dyfodol mwy disglair o fewn eu cymunedau.
  • Cyngor Sir Powys - Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar waith partneriaeth sydd eisoes yn digwydd a gweithgarwch cydweithredol sy'n gysylltiedig â'r Tasglu Tlodi Plant ym Mhowys. Byddant yn gweithio i ddeall ymhellach yr heriau unigryw sy'n wynebu cymunedau ac unigolion ym Mhowys, clywed eu gwirionedd nhw, a cheisio gweithredu ar unwaith, yn ogystal ag o safbwynt tymor canolig a hirdymor.
  • Bydd Mind Cwm Taf Morgannwg yn archwilio achosion emosiynol ac ymddygiadol tlodi drwy grwpiau ffocws a dulliau ymgysylltu eraill. Drwy ddeall hyn gallant nodi ffyrdd o wella addysg a chyngor er mwyn torri cylch tlodi plant a theuluoedd. Yn ogystal, byddant yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar reoli arian a gwytnwch iechyd meddwl.
  • Can Cook - Atal amddifadedd bwyd rhag effeithio ar sut mae plant yn byw eu bywydau. Sefydlu datrysiad bwyd da hirdymor sy'n sicrhau bod pob plentyn yn bwyta'n dda bob dydd.
  • Mae VIBE Youth CIC Pathways to Equity yn brosiect arloesi, dan arweiniad pobl ifanc, sy'n mynd i'r afael â thlodi plant ledled y De. Drwy gydgynllunio labordai, canolfannau cymorth i deuluoedd, ac ymchwil amser real, mae'n grymuso pobl ifanc a chymunedau i lywio datrysiadau, dylanwadu ar bolisi, ac adeiladu dyfodol gwydn sydd wedi'i seilio ar brofiad bywyd, tegwch a chydweithrediad lleol.
  • Cwmpas - Gan weithio ar draws sectorau, byddant yn grymuso pobl ifanc i gynllunio mentrau busnes cymdeithasol newydd a datrysiadau blaengar i heriau cymdeithasol ac amgylcheddol hanfodol sy'n wynebu cymunedau yng Nghymru. Gyda chefnogaeth arbenigol a mynediad at adnoddau a rhwydweithiau, bydd unigolion yn dod â'u gweledigaeth yn fyw ac yn troi syniadau busnes yn realiti.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - bydd eu prosiect partneriaeth yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig a nodwyd gan MALlC o fewn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gymryd rhan mewn mentrau Bwyd/Natur/Celfyddydau synergyddol er mwyn gwella eu lles, dysgu sgiliau, magu hyder, gwella cydberthnasau â chyfoedion/teulu, gwella cysylltiad cymunedol a rhoi llais i blant a phobl ifanc.
  • Bydd Bengal Dragons CIC - The Community Football & Food Project yn cynnig sesiynau pêl-droed am ddim a phrydau maethlon i blant mewn tlodi yng Nghaerdydd, gan wella iechyd, mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd, a meithrin gwytnwch cymunedol. Caiff ei redeg gan y Bengal Dragons mewn partneriaeth â Phrosiect Ieuenctid Naseeha, ac mae'n creu rhwydwaith cymorth hirdymor i deuluoedd drwy chwaraeon, maeth a chydweithio.
  • Plant yng Nghymru - Ehangu i ardaloedd newydd, a datblygu ymhellach raglen hyfforddi ADY/Niwroamrywiaeth arloesol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, i'w chynllunio/chyflwyno gan rieni sydd â phrofiad bywyd o dlodi ac ADY, er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o realiti magu plant â gwahaniaethau a hyrwyddo arferion cadarnhaol a chefnogaeth gymunedol i blant/teuluoedd sy'n delio â thlodi ac ADY.
  • Cyngor Dinas Casnewydd - Ymgysylltu â phlant/rhieni/gwarcheidwaid ac ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ar gerrig milltir datblygiad o ran parodrwydd i fynd i'r ysgol. Defnyddio'r adborth i lywio'r gwaith o dreialu gwahanol ddulliau i alluogi plant/teuluoedd sy'n byw mewn tlodi i gyrraedd eu cerrig milltir datblygiad a bod yn 'barod ar gyfer yr ysgol.'
  • StreetGames - Mae'r prosiect hwn yn profi effaith StreetGames wrth ddatblygu arweinwyr cymunedol y dyfodol. Drwy ymgysylltu â phobl ifanc mewn gweithgareddau chwaraeon lleol, mae'n archwilio'r potensial ar gyfer arweinyddiaeth, ymgysylltu â'r gymuned, a thwf personol, gyda'r nod o greu llwybrau cynaliadwy i rolau gwirfoddoli, hyfforddi ac arwain mewn cymunedau lle nad oes gwasanaethau digonol.
  • Cyswllt Cymru - Bydd y bartneriaeth hon yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol dibynadwy, personol i rieni sy'n gofalu am blant anabl yng Nghonwy a Gwynedd drwy sesiynau 1:1, gweithdai ac adnoddau a gydgynlluniwyd. Gyda'i gilydd, byddant yn cynyddu incwm aelwydydd, yn gwella dealltwriaeth ariannol a lles, ac yn rhannu dysg drwy ddigwyddiad cenedlaethol i gefnogi newid cynaliadwy.
  • Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych - Mae'r prosiect yn ymgorffori cynghorwyr arbenigol o fewn gwasanaeth Cysylltiadau Teuluol Sir Ddinbych, gan ddarparu mynediad cynnar, cymunedol at gyngor ar les, dyled a thai mewn lleoliadau addysg i deuluoedd ifanc sy'n ei chael yn anodd. Mae'r cydweithrediad 'siop un stop' arloesol hwn yn gwella llwybrau cymorth ac yn grymuso teuluoedd mewn tlodi i ffynnu drwy gymorth dibynadwy, cydgysylltiedig lle maen nhw.
  • Mind Canolbarth a Gogledd Powys - Gwasanaeth cymorth i blant a phobl ifanc yng ngogledd Powys. Ffocws: Lleihau tlodi a gwella iechyd meddwl. Byddant yn cynnig gwasanaethau sy'n cefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd i wella eu sefyllfa ariannol. Drwy hwyluso gwell iechyd meddwl, byddant yn helpu i leihau caledi ariannol a gwella llwybrau i addysg/cyflogaeth.
  • Bydd Gweithredu Cymunedol Abergele Cyf yn targedu pobl ifanc 16-19 oed sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu, ac sydd wedi'u heithrio o gyfleoedd cymdeithasol, addysgol, economaidd a digidol. Byddant yn darparu cymorth cyflogadwyedd, sgiliau bywyd a datblygiad personol i greu llwybrau allan o dlodi, gan feithrin gwytnwch a thwf personol, a galluogi unigolion i wireddu eu potensial.
  • Nod Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, sefydliad nid-er-elw, mewn partneriaeth â StreetGames a Gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yw mynd i'r afael â thlodi plant ym Mlaenau Gwent. Bydd y prosiect yn cryfhau cydweithrediad lleol, yn gostwng costau, ac yn canolbwyntio ar les, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn derbyn cymorth hanfodol.
  • Cyngor Ffoaduriaid Cymru - Mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â thlodi plant ymhlith teuluoedd sy'n ceisio noddfa, drwy ddarparu data cywir a mapio anghenion mewn ardaloedd gwasgaru allweddol (gan lenwi bwlch hanfodol yn yr ystadegau Tlodi Plant cyfredol). Mae'n gyrru newid drwy ddatrysiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cydweithredu traws-sector, pecyn cymorth hygyrch canolog, a rhaglen hyfforddi bwrpasol ar gyfer staff allweddol ALl.
  • Fiery Jacks Cic - Partneriaeth newydd rhwng Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot a Fiery Jacks i adeiladu darpariaeth i bobl ifanc yn eu harddegau yn y Sblot, dan arweiniad pobl ifanc, sy'n greadigol ac yn cynnig bwyd. Drwy gyfuno arbenigedd tlodi bwyd a chanolfan gymunedol Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot â model syrcas a gwaith chwarae ieuenctid Fiery Jacks, eu nod yw lleihau effaith tlodi a gwella lles pobl ifanc.
  • Sefydliad Chwaraeon Cymru - Bydd yn mynd i'r afael â thlodi plant drwy gael gwared ar rwystrau ariannol at chwaraeon. Mewn partneriaeth ag asiantaethau lleol, byddant yn darparu talebau ar gyfer tanysgrifiadau neu wersi, a gaiff eu derbyn gan ddarparwyr gweithgareddau. Gan adeiladu ar beilot llwyddiannus yn y Gogledd a Chaerdydd, bydd y prosiect nawr yn ehangu i gefnogi mwy o blant ar draws cymunedau yng Nghymru.
  • Nod Raw Performance CiC - The Fit 4 Change Project yw grymuso unigolion mewn tlodi drwy ymarferion grŵp, arweiniad ar faeth, ac arferion lles. Mae'n meithrin iechyd corfforol a hyder, ac yn addysgu teuluoedd ynghylch cyfathrebu cadarnhaol a rheoli straen. Mae'r prosiect yn meithrin cydlyniant cymunedol, gan hyrwyddo gwytnwch ac arferion cynaliadwy i dorri cylch tlodi.
  • Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - "Dyfodol Creadigol" yn darparu gweithdai creadigol wythnosol am ddim i dros 200 o bobl ifanc ddifreintiedig ledled Torfaen a Blaenau Gwent, gan gynnig ysbrydoliaeth ac arweiniad ar yrfaoedd yn y diwydiant creadigol. Bydd yn meithrin sgiliau a hyder, yn cefnogi lles ac yn agor llwybrau i gyfleoedd go iawn, mewn ffordd sy'n gydnaws â Strategaeth Tlodi Plant Cymru.
  • Street Child United - Nod y prosiect yw grymuso pobl ifanc agored i niwed ym Mlaenau Gwent drwy ddarparu Cwricwlwm Hawliau Plant drwy Bêl-droed. Yn ei dro, bydd yn eu helpu i ddeall eu hawliau, meithrin hyder, a herio stigma, gan uwchsgilio hyfforddwyr a gweithwyr cymdeithasol ar yr un pryd, a meithrin cydweithredu traws-sector i gefnogi pobl ifanc sy'n byw mewn tlodi.
  • MAD Abertawe - Mae'r prosiect hwn yn rhoi clust i leisiau pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid sydd â phrofiad bywyd o dlodi yn Abertawe/Castell-nedd Port Talbot/Pen-y-bont ar Ogwr. Drwy weithdai trafod a throsglwyddo gwybodaeth, mae'n ceisio meithrin dealltwriaeth gyfoethog/fanwl o brofiad bywyd a grymuso pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid i gyd-greu datrysiadau.
  • Y Fenter - Gan adeiladu ar adroddiad 'Dim Drws Anghywir' y Comisiynydd Plant, nod y prosiect hwn yw lleihau effeithiau tlodi plant drwy greu capasiti ychwanegol i helpu mwy o deuluoedd i gael mynediad at wasanaethau. Bydd staff dibynadwy yn rhoi hwb i'r gefnogaeth, yr ymgysylltu a'r partneriaethau, gan ddefnyddio gwybodaeth gymunedol ar draws meysydd chwarae antur y Fenter, The Land, a Gwenfro Valley.
  • Oasis - Cydweithrediad newydd i ddatblygu rhwydwaith o ddarparwyr gofal plant a chwarae am ddim, a mapio a chynyddu'r ddarpariaeth, sy'n addas ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn y Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath, i liniaru tlodi rhieni drwy leihau costau yn uniongyrchol a'u galluogi i astudio a gweithio.