English icon English

Hwb ariannol sylweddol ar gyfer cynllun tai arbenigol yn Llanelli

Major funding boost for specialist housing scheme in Llanelli

Mae cynllun tai â chymorth arbenigol newydd yn Llanelli yn agos at ei gwblhau ar ôl derbyn mwy na £600,000 gan Gronfa Tai gyda Gofal (HCF) Llywodraeth Cymru.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £60.5 miliwn i’r HCF ar gyfer blwyddyn ariannol 2025–26 ac wedi ymestyn y rhaglen tan fis Mawrth 2027, sy’n anelu at ehangu mynediad at dai sy’n cefnogi byw’n annibynnol gyda gwasanaethau gofal wedi’u teilwra yng Nghymru. 

Diolch i'r gronfa hon, mae hen dafarn ar Heol y Bryn wedi'i thrawsnewid yn gynllun tai â chymorth a rennir sy'n cynnwys pum ystafell wely gydag ystafell ymolchi - dwy ohonynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn - ochr yn ochr ag ardal fyw gymunedol, cegin, ystafell fwyta ac ardal awyr agored.  

Mae ystafell staff bwrpasol gyda chyfleusterau cysgu yn sicrhau y gellir darparu cymorth 24/7 pan fo angen, gan hyrwyddo annibyniaeth a lles i breswylwyr.  

Bydd y fenter hon yn galluogi pum unigolyn ag anawsterau dysgu a heriau iechyd meddwl i gael mynediad at gymorth wedi'i deilwra a byw'n annibynnol yn y gymuned. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i leihau dibyniaeth ar leoliadau preswyl costus a meithrin amgylcheddau byw iachach, mwy cynhwysol.  

Derbyniodd Cyngor Sir Caerfyrddin £142,434 yn gyntaf gan yr HCF i gaffael yr eiddo, cyn derbyn £462,849 ychwanegol yn ddiweddar drwy'r un gronfa i gwblhau'r gwaith adeiladu.   

Ar ôl ei orffen, bydd yr eiddo yn dod yn rhan o stoc dai'r cyngor, gan gynyddu'r cyflenwad o lety â chymorth arbenigol yn yr ardal.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: "Mae'r cynllun hwn yn enghraifft bwerus o sut y gallwn drawsnewid bywydau trwy dai cynhwysol.  

"Trwy fuddsoddi'n strategol mewn llety â chymorth arbenigol, rydym nid yn unig yn helpu unigolion i fyw'n annibynnol - rydym yn cryfhau ein cymunedau ac yn hyrwyddo urddas, dewis a lles i bawb."