English icon English
Logo Canolfan Deuluol Tymbl

Hwb cyllid yn rhoi bywyd newydd i fannau lle mae cymunedau'n dod ynghyd

Major funding boost transforms spaces where communities gather

O glybiau chwaraeon i ganolfannau teuluol sy'n cynnig cymorth hanfodol, bydd 14 o leoliadau cymunedol ledled Cymru yn cael bywyd newydd, diolch i fuddsoddiad newydd o £3m gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid o’r Rhaglen grant Cyfleusterau Cymunedol yn helpu i drawsnewid mannau lle mae pobl yn dod ynghyd, dysgu sgiliau newydd a chael cymorth pan fydd arnynt ei angen fwyaf.

Mae Canolfan Deuluol y Tymbl wedi derbyn £300,000 o'r gronfa i helpu i roi cartref addas i’w gweithgareddau ar ôl blynyddoedd o weithredu o gaban portacabin condemniedig ac yna mewn safle dros dro. Mae'r Ganolfan Deuluol yn cefnogi plant, teuluoedd a phobl ifanc yn y Tymbl a'r gymuned ehangach yn Nghwm Gwendraeth, gan gynnig sesiynau chwarae am ddim, gweithgareddau, cyngor a chyfeillgarwch - o sesiynau tylino i fabanod a chwarae synhwyraidd i glybiau ieuenctid, grwpiau teuluol a gwibdeithiau cymunedol.

Gan siarad ar ran ymddiriedolwyr Canolfan Deuluol y Tymbl, dywedodd Anna Durran: "Mae’r staff a’r ymddiriedolwyr yma yng Nghanolfan Deuluol y Tymbl yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect. Mae'r cyllid hwn o gronfa cyfleusterau cymunedol Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch i'r ganolfan deuluol am flynyddoedd lawer i ddod ac yn ein galluogi i barhau i gefnogi plant, teuluoedd a phobl ifanc yn ein cymuned.

"Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hyder yn ein gweledigaeth, a bydd y gefnogaeth yn sicrhau datblygiad y prosiect a fydd yn gyfleuster gwych y mae mawr ei angen yn y gymuned. Rydyn ni’n gyffrous i fod yn rhan o’r gwaith."

Yn ddiweddar, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, draw i’r Tymbl i gwrdd â'r gwirfoddolwyr a'r teuluoedd sy'n dod â'r ganolfan yn fyw.

Dywedodd: "Yn ystod fy ymweliad â'r Tymbl, clywais straeon gwych am sut mae'r Ganolfan Deuluol wedi creu cyrchfan bywiog lle mae pobl yn dod at ei gilydd, gan rannu profiadau a chefnogi ei gilydd, wrth gael amser da.

"Nid gwella adeiladau yn unig yw diben y buddsoddiad - mae'n ymwneud â chryfhau cymunedau ledled Cymru. Mae pobl angen lleoedd hygyrch ar garreg eu drws lle gallant ymuno â gweithgareddau, cael cyngor, a datrys problemau gyda'i gilydd. Rwy'n falch iawn o gefnogi'r datrysiadau creadigol lleol hyn sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau bob dydd."