Hwb gwerth miliynau o bunnoedd i gefnogi gwirfoddolwyr a phobl mwyaf agored i niwed Cymru
Multi-million pound boost to support volunteers & Wales’ most vulnerable
- £24m ar gyfer sector gwirfoddol Cymru wrth i niferoedd gwirfoddolwyr COVID-19 gynyddu i fwy na 30,000 yng Nghymru
- £15m ar gyfer cynllun bwyd dosbarthu uniongyrchol i bobl mwyaf agored i niwed Cymru
- Pobl mwyaf agored i niwed Cymru i gysylltu â’r awdurdod lleol os oes arnynt angen cymorth
- Gwirfoddolwyr parod i gofrestru yn Volunteering-wales.net
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa gychwynnol o £24m i gefnogi sector gwirfoddol Cymru fel ymateb i bandemig Coronafeirws.
Bydd y cyllid yn darparu cefnogaeth ar unwaith i bobl mwyaf agored i niwed Cymru ac yn helpu i gydlynu’r miloedd o wirfoddolwyr parod sydd eisiau helpu eraill yn ystod yr argyfwng presennol.
Bydd £15m pellach yn sicrhau bod pobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu gadael eu cartref yn gallu cael bwyd ac eitemau hanfodol eraill wedi’u dosbarthu’n uniongyrchol i’r drws.
Mae oddeutu 75,000 o bobl yng Nghymru wedi’u datgan fel rhai â risg uchel iawn o salwch difrifol oherwydd coronafeirws. Yr wythnos yma, mae pob un wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, sy’n cynnwys cyngor clir i aros gartref am 12 wythnos – a rhif ffôn ar gyfer eu cyngor lleol. Dyma’r rhif y dylent ei ffonio os oes arnynt angen i fwyd a/neu feddyginiaeth, ac eitemau hanfodol eraill, gael eu dosbarthu i’w cartref.
Hefyd mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i gofrestru eu diddordeb mewn gwirfoddoli’n ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws yn Volunteering-wales.net. Yn ogystal, mae cyfleoedd i bobl sy’n hunan-ynysu gymryd rhan, er enghraifft, cymryd rhan mewn cynlluniau cyfeillio dros y ffôn ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt:
“Mae’r haelioni a’r caredigrwydd sy’n cael ei ddangos gan filoedd o bobl ledled Cymru sydd eisiau cefnogi eu cymdogion, y GIG, a gwasanaethau lleol wir yn anrhydeddus. Yr wythnos yma rydw i wedi ysgrifennu at y bobl hynny na ddylai ddod i gysylltiad ag unrhyw un y tu allan i’w cartref ac yr ydym yn gofyn iddynt beidio â mynd allan o gwbl yn ystod yr amser anodd yma. Bydd rhagor o gefnogaeth yn cael ei chyhoeddi i’r bobl hynny yr ydym wedi gofyn iddynt fod yn hynod ofalus oherwydd beichiogrwydd, eu hoedran a rhai cyflyrau penodol.
“Mae busnesau wedi bod yn cynnig eu hadnoddau fel cwmnïau, adeiladau a hyd yn oed llinellau cynhyrchu cyfan i gefnogi ymateb Cymru i bandemig coronafeirws.
“Er bod rheolau llym yn eu lle sy’n cyfyngu’n fawr ar symudiad pobl, fe allwn ni helpu eraill yn ddiogel o hyd, heb beri risg i ni ein hunain nac i eraill. Hoffwn annog pobl i fynd i Volunteering-wales.net i gofrestru eu diddordeb ac i gymryd rhan yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.”
Ychwanegodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths:
“Bydd ein bocsys wythnosol ni o fwyd hanfodol yn cael eu darparu i’r bobl hynny sydd wedi derbyn llythyr gan y GIG ac sy’n ‘gwarchod’ eu hunain. Bydd hyn yn darparu cyflenwadau am ddim hanfodol i’r bobl mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae fy neges i i’r bobl yn glir – os nad ydych chi’n gallu cael bwyd wedi’i ddosbarthu neu ofyn i deulu a ffrindiau helpu, byddwn yn helpu i sicrhau eich bod yn cael eich bwydo.
“Bydd y bocsys bwyd newydd yma nid yn unig yn gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed ond hefyd yn eu helpu i ddilyn canllawiau meddygol i aros gartref, gwarchod bywydau a hefyd gwarchod ein GIG.”
Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
“Rydyn ni wedi rhyfeddu at nifer y gwirfoddolwyr yng Nghymru sy’n camu ymlaen i helpu yn ystod yr amser yma. Mae’r ymwelwyr â gwefan Gwirfoddoli Cymru wedi mwy na threblu ers dydd Llun gyda mwy na 10,500 o ymweliadau ddydd Iau yn unig. Mae ymdrechion gwirfoddolwyr mewn cymunedau ledled Cymru’n hanfodol er mwyn helpu i dynnu’r pwysau oddi ar y GIG. Rydyn ni’n annog unigolion sy’n gallu gwirfoddoli i ymweld â gwefan Gwirfoddoli Cymru a chofrestru yn eu hardal leol.”