Hwb o £175m i'r gyllideb ar gyfer tai yng Nghymru
£175m budget boost for housing in Wales
Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai, y bydd cyfanswm o £400m yn cael ei fuddsoddi mewn tai newydd yng Nghymru yn 2020-21, a hynny yn sgil hwb gwerth £175m i'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru.
Golyga hyn y bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfanswm o £2bn mewn adeiladu cartrefi newydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:
"Mae tai yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21.
"Rydym am i bawb fyw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn eu helpu i fyw bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus. Mae cartrefi o ansawdd da yn sylfaen i gymunedau da ac maent yn galluogi unigolion a theuluoedd i ffynnu ym mhob agwedd ar eu bywydau.
"Rwy'n falch y byddwn yn buddsoddi £175m arall mewn cynlluniau tai o fis Ebrill ymlaen, gan fuddsoddi cyfanswm o £400m mewn tai newydd.
"Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn adeiladu rhagor o'r tai cymdeithasol a fforddiadwy y mae ar bobl eu hangen ledled Cymru."
Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw darparu rhagor o dai cymdeithasol ac mae'r chwistrelliad newydd o gyllid cyfalaf ar gyfer tai yng nghyllideb y flwyddyn ariannol hon yn cynnwys £48m arall ar gyfer y rhaglen grant tai cymdeithasol. Golyga hyn y bydd cyfanswm o £223.3m yn cael ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd.
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dyrannu:
- £50m i ariannu benthyciadau tai – a fydd yn cynorthwyo Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig â chynlluniau datblygu ar gyfer tai cymdeithasol newydd ac yn helpu i ddechrau datgarboneiddio tai sydd wedi ei hadeiladu eisoes
- £35m i ariannu Cymorth i Brynu Cymru – a fydd yn helpu rhagor o bobl i ddod yn berchen ar gartref
- £5m o gyllid cyfalaf a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y gronfa rhyddhau tir, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu tir cyhoeddus i'w ddefnyddio ar gyfer tai cymdeithasol
- £10m i helpu cyflenwyr dulliau modern o adeiladu yng Nghymru.
Hefyd, bydd rhagor o gyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer adeiladu rhagor o gartrefi carbon isel, gan helpu i ymateb i'r argyfwng o ran yr hinsawdd, fel rhan o becyn £140m i sicrhau Cymru wyrddach.
Bydd £25m o gyllid cyfalaf ychwanegol yn ymestyn y Rhaglen Tai Arloesol, gan ymateb i dystiolaeth newydd y gall dulliau modiwlar a dulliau modern eraill o adeiladu cartrefi lwyddo i ddarparu cartrefi sydd bron yn ddi-garbon. Bydd tua 450 yn rhagor o gartrefi cymdeithasol sy'n ystyriol o'r hinsawdd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru o ganlyniad.
Mae'r Rhaglen Tai Arloesol yn helpu pobl sy'n adeiladu tai fforddiadwy a thai ar gyfer y farchnad i ddatblygu modelau newydd ar gyfer adeiladu tai. Mae’r rhaglen hon yn adeiladu ar y llwyddiant sydd wedi'i weld dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gefnogi newid go iawn.
Rhwng 2016 a 2021, bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2bn mewn tai, gan gydnabod pwysigrwydd tai o ansawdd da i gefnogi cymunedau sy'n ffynnu. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy newydd ledled Cymru erbyn 2021.