English icon English

Hwb o £9.49m ar gyfer triniaeth canser yn y Gogledd

£9.49m boost for North Wales cancer treatment

Bydd mwy o bobl yn derbyn triniaeth radiotherapi wrth i Ysbyty Glan Clwyd gael peiriannau trin canser newydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £9.49m mewn dau gyflymydd llinellol newydd yng Nghanolfan Triniaeth Canser Gogledd Cymru i gymryd lle offer sy'n heneiddio.

Bydd y peiriannau newydd yn darparu triniaeth radiotherapi mewn modd mwy cywir ac effeithlon.

Gall y Linacs diweddaraf dargedu a dinistrio celloedd canser yn fwy cywir, gan leihau'r risg o wneud niwed i’r feinwe normal o amgylch safle'r tiwmor.

Bydd yr offer newydd yn fwy dibynadwy na'r peiriannau hŷn, sy'n gallu torri i lawr ac achosi oedi yn y driniaeth a roddir i gleifion. Maen nhw'n gweithio'n gyflymach, gan ganiatáu i fwy o bobl gael triniaeth bob wythnos.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

"Bydd yr offer newydd diweddaraf hwn yn darparu triniaeth yn fwy cywir ac yn gyflymach i bobl â chanser, gan wella mynediad at wasanaethau radiotherapi a lleihau amseroedd aros.

"Mae'n enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i bobl, ac mae'n dilyn buddsoddiadau tebyg mewn offer newydd yng nghanolfannau canser eraill yng Nghymru."

Dywedodd y Pennaeth Ffiseg Radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd, Jaap Vaarkamp:

"Bydd yr offer newydd hwn yn ein helpu i ddarparu gofal arloesol, sy'n canolbwyntio ar y claf, trwy driniaethau symlach, lleihau amseroedd darparu'r driniaeth, a gwelliant mawr i'r ddarpariaeth ddelweddu. Bydd yn helpu i sicrhau ein bod yn rhoi triniaeth wedi'i thargedu, pan fydd angen gwneud hynny."

Nodiadau i olygyddion

  • The NHS in Wales delivers external beam radiotherapy services via its three specialist cancer centres: Velindre Cancer Centre, the South West Wales Cancer Centre, and the North Wales Cancer Treatment Centre.
  • A radiotherapy satellite centre has opened in Nevill Hall Hospital in Abergavenny and provides specialist radiotherapy.
  • Each cancer centre has a number of linear accelerators to deliver external beam radiotherapy, which is distinct from machines or techniques that deliver radiotherapy internally within the body. The new Linacs for North Wales will be installed and operational in 2026.