Hwb ychwanegol gwerth £1.75 miliwn i helpu i groesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd
Extra £1.75m to help welcome visitors whatever the weather
Bydd grantiau gwerth £1.75 miliwn yn helpu i sicrhau bod busnesau twristiaeth a lletygarwch bach ledled Cymru yn gallu croesawu ymwelwyr waeth beth fo'r tywydd.
Yn dilyn llwyddiant y gronfa gychwynnol i liniaru effeithiau'r tywydd a ganiataodd i'r sector atyniadau twristiaeth fuddsoddi mewn mesurau diogelu rhag tywydd gwael, bydd ail gam newydd yn cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch bach i liniaru effaith pob math o dywydd a gwella'r profiad i ymwelwyr.
Mae grantiau o rhwng £5,000 a £20,000 fesul prosiect ar gael i gefnogi'r gwaith o osod mesurau diogelu rhag tywydd gwael, fel ardaloedd awyr agored newydd o dan do, podiau bwyta, neu arwynebau a draenio.
Mae'r cynllun yn agored i fentrau bach gyda 9-49 o weithwyr parhaol sydd wedi bod yn masnachu am o leiaf blwyddyn, gan gynnwys:
- Darparwyr llety
- Sefydliadau bwyd a diod
- Gweithgareddau hamdden ac awyr agored
Mae Ogofâu Arddangos Dan-yr-Ogof, un o'r atyniadau i dwristiaid a dderbyniodd gyllid yn y rownd flaenorol, wedi gosod cysgodfan i’w trên tir ynghyd â tho y tu allan i'w swyddfa docynnau i gadw ymwelwyr yn sych mewn ardaloedd aros allweddol.
Dywedodd Ashford Price, cydberchennog yr ogofâu:
"Er ein bod bob amser yn ceisio gwella profiad ein hymwelwyr, mae'r Gronfa Lliniaru Effeithiau'r Tywydd wedi dod â dimensiwn ychwanegol i'r hyn y gallwn ei gyflawni – mae gan ein hymwelwyr ardaloedd dan do i'w defnyddio cyn mynd i mewn i'r ogofâu neu hyd yn oed wrth aros i'r trên tir elusennol nesaf eu codi. Ar rai dyddiau gall aros yn sych bod ychydig yn hirach fod yn amhrisiadwy."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Roeddwn wrth fy modd gyda'r niferoedd oedd â diddordeb yn rownd gyntaf ein cronfa lliniaru effeithiau'r tywydd, ac mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi sector sy'n hanfodol i economi Cymru.
"Drwy fuddsoddi mewn mesurau i liniaru effeithiau'r tywydd, rydyn ni'n cefnogi busnesau i ehangu eu cyfleoedd masnachu, a fydd yn ei dro yn denu rhagor o ymwelwyr, gwella profiadau, ac yn y pen draw cynyddu nifer y bobl sy'n aros ledled Cymru a faint maen nhw'n ei wario.
"Mae Cymru'n cynnig profiadau anhygoel drwy gydol y flwyddyn, ac yn ystod y flwyddyn hon, Blwyddyn Croeso, bydd y gronfa yn helpu ein busnesau twristiaeth llai i wneud y gorau o bob tymor – gan ganiatáu iddyn nhw roi croeso cynnes Cymreig i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn."
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cyllid | Eich cefnogi | Croeso Cymru Diwydiant. Mae'r cynllun yn agor ar 29 Medi 2025 ac yn cau ar 27 Hydref 2025 am 1pm.